Hen Destament

Testament Newydd

2 Pedr 2:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ond roedd proffwydi ffals hefyd yn Israel bryd hynny, a bydd athrawon ffals yn codi yn eich plith chithau. Byddan nhw'n sleifio i mewn gyda heresïau sy'n arwain i ddinistr. A hyd yn oed yn mynd mor bell a gwadu awdurdod y Meistr brynodd ryddid iddyn nhw oddi wrth bechod! Byddan nhw'n dwyn dinistr arnyn nhw eu hunain yn fuan iawn.

2. Bydd llawer o bobl yn eu dilyn ac yn rhoi penrhyddid llwyr i'w chwantau rhywiol. Bydd y wir ffordd at Dduw yn cael enw drwg ganddyn nhw.

3. Byddan nhw'n ceisio manteisio arnoch chi a chael eich arian chi drwy adrodd straeon celwyddog. Maen nhw wedi cael eu dedfrydu i gael eu cosbi ers amser maith, a dydy'r ddedfryd ddim wedi ei hanghofio. Mae'r dinistr sy'n dod arnyn nhw ar ei ffordd!

4. Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed yr angylion oedd yn euog o bechu yn ei erbyn. Anfonodd nhw i uffern, a'u rhwymo yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol i ddisgwyl cael eu cosbi.

5. Wnaeth e ddim arbed yr hen fyd chwaith. Anfonodd lifogydd y dilyw i foddi'r byd oedd yn llawn o bobl oedd yn tynnu'n groes iddo. Dim ond Noa a saith aelod o'i deulu gafodd eu harbed. Noa oedd yr unig un oedd yn galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw.

6. Wedyn cafodd trefi Sodom a Gomorra eu llosgi'n ulw, a'u gwneud yn esiampl o beth sy'n mynd i ddigwydd i bobl annuwiol.

7. Ond cafodd Lot ei achub o Gomorra am ei fod e yn ddyn oedd yn gwneud beth oedd yn iawn. Roedd yn torri ei galon wrth weld ymddygiad diegwyddor a phenrhyddid llwyr pobl o'i gwmpas.

8. Roedd Lot yn ceisio gwneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Duw. Roedd yn cael ei boeni'n enbyd gan y pethau ofnadwy roedd yn ei weld ac yn ei glywed o'i gwmpas.

9. Felly mae'r Arglwydd yn gwybod yn iawn sut i achub pobl dduwiol o ganol eu treialon. Ond mae'n cadw pobl ddrwg i'w cosbi pan ddaw dydd y farn.

10. Mae Duw yn arbennig o llym wrth gosbi'r rhai hynny sy'n gwneud dim ond dilyn eu chwantau. Pobl sy'n gadael i'w natur bechadurus lygredig reoli eu bywydau, ac sy'n wfftio awdurdod yr Arglwydd. Maen nhw mor haerllug ac mor siŵr ohonyn nhw eu hunain does ganddyn nhw ddim ofn enllibio'r diafol a'i angylion.

11. Dydy hyd yn oed angylion Duw, sy'n llawer cryfach a mwy pwerus na nhw, ddim yn eu henllibio nhw wrth eu cyhuddo o flaen Duw.

12. Ond mae'r bobl yma fel anifeiliaid direswm yn dilyn eu greddfau. Maen nhw'n enllibio pethau dŷn nhw ddim yn eu deall. A byddan nhw hefyd yn cael eu dal a'u dinistrio yn y diwedd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Pedr 2