Hen Destament

Testament Newydd

2 Pedr 1:19-21 beibl.net 2015 (BNET)

19. A dŷn ni'n rhoi pwys mawr ar neges y proffwydi hefyd. Byddai'n beth da i chithau dalu sylw i'r neges honno. Mae fel lamp sy'n goleuo rhywle tywyll nes i'r dydd wawrio ac i ‛seren y bore‛ godi i oleuo eich meddyliau chi.

20. Mae'n hynod o bwysig i chi ddeall hyn – mai dim syniadau'r proffwyd ei hun ydy'r negeseuon sydd yn yr ysgrifau sanctaidd.

21. Dim y proffwyd ei hun oedd yn penderfynu ei fod am ddweud rhywbeth. Er mai pobl oedd yn gwneud y siarad, yr Ysbryd Glân oedd yn eu cymell nhw i siarad. Roedden nhw'n dweud beth oedd Duw am iddyn nhw ei ddweud.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Pedr 1