Hen Destament

Testament Newydd

2 Ioan 1:3-12 beibl.net 2015 (BNET)

3. Bydd haelioni rhyfeddol, a thrugaredd a heddwch dwfn Duw y Tad, a Iesu Grist ei Fab, yn aros gyda ni sy'n byw bywyd o gariad ac sy'n ffyddlon i'r gwir.

4. Roeddwn i wrth fy modd o glywed fod rhai ohonoch chi yn byw felly – yn ffyddlon i'r gwir, fel mae'r Tad wedi gorchymyn i ni.

5. Nawr, dw i ddim yn rhoi rhyw orchymyn newydd i chi fel eglwys. Dw i'n apelio atoch chi i gofio'r egwyddor sylfaenol sydd wedi bod gyda ni o'r dechrau, sef ein bod i garu'n gilydd.

6. Ystyr cariad ydy ein bod ni'n byw fel mae Duw'n dweud wrthon ni. Dyna glywoch chi o'r dechrau cyntaf. Dyna sut dŷn ni i fod i fyw.

7. Mae llawer o rai sy'n twyllo wedi'n gadael ni a mynd allan i'r byd. Pobl ydyn nhw sy'n gwrthod credu fod gan Iesu Grist gorff dynol a'i fod yn ddyn go iawn. Twyllwyr ydyn nhw! Gelynion y Meseia!

8. Gwyliwch, rhag i chi gael eich dylanwadu ganddyn nhw, a cholli'r wobr dych chi wedi gweithio mor galed amdani! Daliwch ati, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn cael eich gwobr yn llawn.

9. Mae'r rhai sy'n mynd y tu hwnt i beth wnaeth Iesu Grist ei ddysgu wedi torri pob cysylltiad â Duw. Ond mae gan y rhai sy'n glynu wrth ddysgeidiaeth y Meseia berthynas gyda'r Tad a'r Mab.

10. Os ydy rhywun yn dod atoch sydd ddim yn dysgu'r gwir, peidiwch eu gwahodd nhw i mewn i'ch tŷ. Peidiwch hyd yn oed eu cyfarch nhw.

11. Mae unrhyw un sy'n rhoi croeso iddyn nhw yn eu helpu nhw i wneud drwg.

12. Mae gen i lawer mwy i'w ddweud wrthoch chi, ond dw i ddim am ei roi ar bapur. Dw i'n gobeithio dod i'ch gweld chi, a siarad wyneb yn wyneb. Byddai hynny'n ein gwneud ni'n hapus go iawn!

Darllenwch bennod gyflawn 2 Ioan 1