Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 7:8-16 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dw i ddim yn sori mod i wedi anfon y llythyr, er ei fod wedi'ch brifo chi. Roeddwn i yn sori i ddechrau, wrth weld eich bod chi wedi cael eich brifo. Ond doedd hynny ddim ond dros dro.

9. Felly dw i'n hapus bellach – dim am i chi gael eich gwneud yn drist, ond am fod hynny wedi gwneud i chi newid eich ffyrdd. Dyna'r math o dristwch mae Duw eisiau ei weld, felly wnaethon ni ddim drwg i chi.

10. Mae'r math o dristwch mae Duw am ei weld yn gwneud i bobl newid eu ffyrdd a chael eu hachub. Dydy hynny byth yn rhywbeth i'w ddifaru! Ond dydy teimlo'n annifyr am rywbeth, heb droi at Dduw, ddim ond yn arwain i farwolaeth ysbrydol.

11. Edrychwch beth mae'r tristwch mae Duw'n edrych amdano wedi ei wneud ynoch chi: mae wedi creu brwdfrydedd ac awydd i sortio'r peth allan, ac wedi'ch gwneud chi mor ddig fod y fath beth wedi digwydd. Mae wedi creu y fath barch ata i, y fath hiraeth amdana i, y fath sêl, y fath barodrwydd i gosbi'r troseddwr. Drwy'r cwbl i gyd dych wedi profi fod dim bai arnoch chi.

12. Felly, roeddwn i'n ysgrifennu atoch chi fel gwnes i, dim i ddelio gyda'r un wnaeth y drwg, nac i ddangos fy mod i fy hun wedi cael cam. Roeddwn i'n ysgrifennu er eich mwyn chi! – i chi weld drosoch eich hunain mor bwysig ydy'n perthynas ni. Mae Duw'n gwybod!

13. Felly dŷn ni wedi cael ein calonogi'n fawr! Ond yn fwy na hynny, roedden ni'n arbennig o falch o weld mor hapus oedd Titus. Cafodd y fath groeso gynnoch chi i gyd, ac mae wedi codi ei galon yn fawr.

14. Roeddwn i wedi bod yn brolio amdanoch chi wrtho, a wnaethoch chi ddim fy siomi i. Yn union fel mae popeth dŷn ni wedi ei ddweud wrthoch chi'n wir, mae beth ddwedon ni amdanoch chi wrth Titus wedi troi allan i fod yn wir hefyd.

15. Mae wedi dod mor hoff ohonoch chi. Mae e'n cofio sut fuoch chi i gyd mor ufudd, a dangos y fath barch a chonsýrn.

16. Dw i'n hapus iawn, am fy mod i'n gallu ymddiried yn llwyr ynoch chi.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 7