Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 5:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae'r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dŷn ni'n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dŷn ni'n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni – cartref parhaol yn y nefoedd wedi ei adeiladu ganddo fe'i hun.

2. Yn y cyfamser dŷn ni'n hiraethu am gael ein gwisgo â'n cyrff nefol.

3. A byddwn yn eu gwisgo – fydd dim rhaid i ni aros yn noeth.

4. Tra'n byw yn y babell ddaearol, dŷn ni'n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff – dŷn ni eisiau gwisgo'r corff nefol. Dŷn ni eisiau i'r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy'n para am byth.

5. Mae Duw ei hun wedi'n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi'r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.

6. Felly dŷn ni'n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra'n byw yn ein corff daearol, ac wedi'n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu.

7. Dŷn ni'n byw yn ôl beth dŷn ni'n ei gredu, dim yn ôl beth dŷn ni'n ei weld.

8. Dw i'n dweud eto ein bod ni'n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai'n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda'r Arglwydd!

9. Ond adre neu beidio, ein huchelgais ni bob amser ydy ei blesio fe.

10. Achos bydd pob un ohonon ni'n cael ein barnu gan y Meseia ryw ddydd. Bydd pawb dderbyn beth mae'n ei haeddu am y ffordd mae wedi ymddwyn, pa un ai da neu ddrwg.

11. Felly, am ein bod ni'n gwybod fod yr Arglwydd i'w ofni, dŷn ni'n ceisio perswadio pobl. Mae Duw yn gwybod sut rai ydyn ni, a dw i'n hyderus eich bod chi'n gwybod eich bod chi'n gallu'n trystio ni hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 5