Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 3:5-15 beibl.net 2015 (BNET)

5. Dŷn ni ddim yn deilwng ynon ni'n hunain i hawlio'r clod am ddim byd – Duw sy'n ein gwneud ni'n deilwng.

6. Mae wedi'n gwneud ni'n deilwng i wasanaethu'r ymrwymiad newydd wnaeth e. Nid cyfraith ysgrifenedig ydy hon, ond ymrwymiad Duw gafodd ei roi gan yr Ysbryd Glân. Mae ceisio cadw at lythyren y ddeddf yn lladd, ond mae'r Ysbryd yn rhoi bywyd.

7. Er bod yr hen drefn (gafodd ei naddu ar garreg) yn arwain i farwolaeth, cafodd ei rhoi gyda'r fath ysblander! Roedd yr Israeliaid yn methu edrych ar wyneb Moses am ei fod yn disgleirio! (Ond roedd yn pylu wrth i amser fynd yn ei flaen).

8. Felly beth am drefn newydd yr Ysbryd? Oni fydd hi'n dod gydag ysblander llawer iawn mwy rhyfeddol?

9. Os oedd y drefn sy'n arwain i farn yn wych, meddyliwch mor anhygoel o wych fydd y drefn newydd sy'n dod â ni i berthynas iawn gyda Duw!

10. Yn wir, dydy beth oedd yn ymddangos mor rhyfeddol ddim yn edrych yn rhyfeddol o gwbl bellach, am fod ysblander y drefn newydd yn disgleirio gymaint mwy llachar!

11. Ac os oedd y drefn oedd yn pylu yn rhyfeddol, meddyliwch mor ffantastig ydy ysblander y drefn sydd i aros!

12. Gan mai dyma dŷn ni'n edrych ymlaen ato, dŷn ni'n gallu cyhoeddi'n neges yn gwbl hyderus.

13. Dŷn ni ddim yr un fath â Moses, yn rhoi gorchudd dros ei wyneb rhag i bobl Israel syllu arno a gweld fod y disgleirdeb yn diflannu yn y diwedd.

14. Ond doedden nhw ddim yn gweld hynny! Ac mae'r un gorchudd yn dal yno heddiw pan mae geiriau'r hen drefn yn cael eu darllen. Dim ond y Meseia sy'n gallu cael gwared â'r gorchudd!

15. Ond hyd heddiw, pan mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen mae'r gorchudd yn dal yna yn eu dallu nhw.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 3