Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 11:7-23 beibl.net 2015 (BNET)

7. Roeddwn i wedi cyhoeddi newyddion da Duw i chi yn rhad ac am ddim. Tybed wnes i'r peth anghywir? Diraddio fy hun er mwyn eich anrhydeddu chi.

8. Roeddwn i'n derbyn tâl gan eglwysi eraill er mwyn i mi allu gweithio i chi!

9. Hyd yn oed pan roeddwn i'n brin, fues i ddim yn faich ar neb ohonoch chi. Y ffrindiau ddaeth o dalaith Macedonia roddodd i mi bopeth oedd arna i ei angen. Dw i wedi osgoi bod yn faich arnoch chi o gwbl, a dw i'n mynd i ddal i wneud hynny.

10. Heb unrhyw amheuaeth does neb yn Achaia gyfan yn gallu gwadu hynny.

11. Ond pam dw i'n gwneud hyn? Am fy mod i ddim yn eich caru chi? Duw a ŵyr cymaint dw i'n eich caru chi!

12. Dw i'n mynd i ddal ati i wneud yr un fath â dw i wedi gwneud bob amser. Bydd hynny'n tynnu'r carped o dan draed y rhai sy'n brolio ac yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n gwneud yr un gwaith â ni!

13. Na, ffug-apostolion ydyn nhw! Twyllwyr yn cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n cynrychioli y Meseia!

14. A dim syndod, achos mae Satan ei hun yn cymryd arno ei fod yn angel y goleuni!

15. Felly pam ddylen ni ryfeddu os ydy ei weision e'n cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n gweithio dros beth sy'n iawn. Byddan nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu yn y diwedd!

16. Dw i'n dweud eto: peidiwch meddwl fy mod i'n ffŵl. Ond hyd yn oed os dych chi'n meddwl hynny, wnewch chi oddef i mi actio'r ffŵl trwy frolio tipyn bach?

17. Wrth frolio fel yma dw i ddim yn siarad fel y byddai'r Arglwydd am i mi siarad – actio'r ffŵl ydw i.

18. Ond am fod cymaint yn brolio fel mae'r byd yn gwneud, dw i'n mynd i wneud yr un peth.

19. Wedi'r cwbl, er eich bod chi mor ddoeth, dych chi'n barod iawn i oddef ffyliaid!

20. Yn wir, dych chi'n fodlon hyd yn oed os ydyn nhw'n eich caethiwo chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd eich arian chi a manteisio arnoch chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd drosodd a chodi cywilydd arnoch chi yn y ffordd maen nhw'n eich trin chi!

21. Mae gen i gywilydd ohono i'n hun, fy mod i'n rhy wan i'ch trin chi felly!Ond os ydyn nhw am frolio, gadewch i mi fentro gwneud yr un peth. (Cofiwch mai actio'r ffŵl ydw i!)

22. Maen nhw'n Iddewon sy'n siarad Hebraeg ydyn nhw? A fi! Israeliaid crefyddol, ie? A fi! Disgynyddion Abraham? A fi!

23. Gweision i'r Meseia? Dw i'n was gwell! (Dw i wir ddim yn gall yn siarad fel hyn!) Dw i wedi gweithio'n galetach na nhw, wedi bod yn y carchar yn amlach, wedi cael fy nghuro dro ar ôl tro, nes mod i bron marw'n aml.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 11