Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 11:4-16 beibl.net 2015 (BNET)

4. Mae rhywun yn dod atoch chi ac yn pregethu am Iesu gwahanol i'r un roedden ni'n ei bregethu. Dych chi'n derbyn ysbryd sy'n wahanol, neu ‛newyddion da‛ gwahanol, a dych chi'n goddef y cwbl yn ddigon hapus!

5. Ond dw i ddim yn meddwl mod i'n israddol o gwbl i'r ‛ffansi-apostolion‛ yna.

6. Falle nad ydw i'n siaradwr cyhoeddus mawr, ond dw i'n gwybod beth ydy'r gwir. Mae'r gwir wedi cael ei wneud yn ddigon clir i chi bob amser.

7. Roeddwn i wedi cyhoeddi newyddion da Duw i chi yn rhad ac am ddim. Tybed wnes i'r peth anghywir? Diraddio fy hun er mwyn eich anrhydeddu chi.

8. Roeddwn i'n derbyn tâl gan eglwysi eraill er mwyn i mi allu gweithio i chi!

9. Hyd yn oed pan roeddwn i'n brin, fues i ddim yn faich ar neb ohonoch chi. Y ffrindiau ddaeth o dalaith Macedonia roddodd i mi bopeth oedd arna i ei angen. Dw i wedi osgoi bod yn faich arnoch chi o gwbl, a dw i'n mynd i ddal i wneud hynny.

10. Heb unrhyw amheuaeth does neb yn Achaia gyfan yn gallu gwadu hynny.

11. Ond pam dw i'n gwneud hyn? Am fy mod i ddim yn eich caru chi? Duw a ŵyr cymaint dw i'n eich caru chi!

12. Dw i'n mynd i ddal ati i wneud yr un fath â dw i wedi gwneud bob amser. Bydd hynny'n tynnu'r carped o dan draed y rhai sy'n brolio ac yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n gwneud yr un gwaith â ni!

13. Na, ffug-apostolion ydyn nhw! Twyllwyr yn cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n cynrychioli y Meseia!

14. A dim syndod, achos mae Satan ei hun yn cymryd arno ei fod yn angel y goleuni!

15. Felly pam ddylen ni ryfeddu os ydy ei weision e'n cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n gweithio dros beth sy'n iawn. Byddan nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu yn y diwedd!

16. Dw i'n dweud eto: peidiwch meddwl fy mod i'n ffŵl. Ond hyd yn oed os dych chi'n meddwl hynny, wnewch chi oddef i mi actio'r ffŵl trwy frolio tipyn bach?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 11