Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 11:16-32 beibl.net 2015 (BNET)

16. Dw i'n dweud eto: peidiwch meddwl fy mod i'n ffŵl. Ond hyd yn oed os dych chi'n meddwl hynny, wnewch chi oddef i mi actio'r ffŵl trwy frolio tipyn bach?

17. Wrth frolio fel yma dw i ddim yn siarad fel y byddai'r Arglwydd am i mi siarad – actio'r ffŵl ydw i.

18. Ond am fod cymaint yn brolio fel mae'r byd yn gwneud, dw i'n mynd i wneud yr un peth.

19. Wedi'r cwbl, er eich bod chi mor ddoeth, dych chi'n barod iawn i oddef ffyliaid!

20. Yn wir, dych chi'n fodlon hyd yn oed os ydyn nhw'n eich caethiwo chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd eich arian chi a manteisio arnoch chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd drosodd a chodi cywilydd arnoch chi yn y ffordd maen nhw'n eich trin chi!

21. Mae gen i gywilydd ohono i'n hun, fy mod i'n rhy wan i'ch trin chi felly!Ond os ydyn nhw am frolio, gadewch i mi fentro gwneud yr un peth. (Cofiwch mai actio'r ffŵl ydw i!)

22. Maen nhw'n Iddewon sy'n siarad Hebraeg ydyn nhw? A fi! Israeliaid crefyddol, ie? A fi! Disgynyddion Abraham? A fi!

23. Gweision i'r Meseia? Dw i'n was gwell! (Dw i wir ddim yn gall yn siarad fel hyn!) Dw i wedi gweithio'n galetach na nhw, wedi bod yn y carchar yn amlach, wedi cael fy nghuro dro ar ôl tro, nes mod i bron marw'n aml.

24. Dw i wedi cael fy chwipio bum gwaith gan yr Iddewon (y tri deg naw chwip).

25. Dw i wedi cael fy nghuro â ffyn dair gwaith gan y Rhufeiniaid. Un tro cafodd cerrig eu taflu ata i er mwyn fy lladd i. Dw i wedi bod mewn llongddrylliad dair gwaith. Un o'r troeon hynny roeddwn i yn y môr am dros bedair awr ar hugain.

26. Yn ystod yr holl deithio di-baid dw i wedi bod mewn peryg gan afonydd, gan ladron, gan fy mhobl fy hun a phobl o genhedloedd eraill; dw i wedi bod mewn peryg mewn dinasoedd, wrth deithio drwy dir anial ac ar y môr; a hefyd gan y dynion sy'n cymryd arnyn eu bod nhw'n Gristnogion.

27. Dw i wedi gweithio'n wirioneddol galed ac wedi colli cwsg yn aml; wedi profi newyn a syched a mynd heb fwyd yn aml; dw i wedi dioddef o oerfel ac wedi bod heb ddigon o ddillad i gadw'n gynnes.

28. A heb sôn am ddim arall, dw i dan bwysau bob dydd o achos y consýrn sydd gen i am yr eglwysi i gyd.

29. Os ydy rhywun yn teimlo'n wan, dw i yno gydag e. Os ydy rhywun yn cael ei arwain i bechu, dw i'n berwi y tu mewn!

30. Os oes rhaid i mi frolio, mae'n well gen i frolio am y pethau hynny sy'n dangos mor wan ydw i.

31. Mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu – yr un sydd i'w foli am byth – yn gwybod fy mod i'n dweud y gwir.

32. Yn Damascus roedd y llywodraethwr dan y Brenin Aretas wedi gorchymyn i'r ddinas gael ei gwarchod er mwyn fy arestio i.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 11