Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 1:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd.At eglwys Dduw yn Corinth, a'r holl Gristnogion sydd yn nhalaith Achaia:

2. Dŷn ni'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.

3. Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy'r Tad sy'n tosturio a'r Duw sy'n cysuro.

4. Mae'n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷn ni'n eu cysuro nhw trwy rannu am y ffordd mae Duw'n ein cysuro ni.

5. Po fwya dŷn ni'n rhannu profiad y Meseia, mwya dŷn ni'n cael ein cysuro ganddo.

6. Dŷn ni'n gorfod wynebu trafferthion er mwyn i chi gael eich cysuro a'ch cadw'n saff. Pan dŷn ni'n cael ein cysuro, dylai hynny hefyd fod yn gysur i chi, a'ch helpu chi i ddal ati pan fyddwch chi'n dioddef yr un fath â ni.

7. A dŷn ni'n sicr y byddwch chi, wrth ddioddef yr un fath â ni, yn cael eich cysuro gan Dduw yr un fath â ni hefyd.

8. Dŷn ni eisiau i chi ddeall ffrindiau annwyl, mor galed mae pethau wedi bod arnon ni yn nhalaith Asia. Roedd y pwysau yn ormod o lawer i ni ei ddal yn ein nerth ein hunain. Roedd yn ein llethu ni! Roedden ni'n meddwl ei bod hi ar ben arnon ni,

9. a'n bod ni wir yn mynd i farw. Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni'n hunain. Fe ydy'r Duw sy'n dod â'r meirw yn ôl yn fyw!

10. Mae wedi'n hachub ni y tro yma, a bydd yn ein hachub ni eto. A dŷn ni'n gwbl hyderus y bydd yn dal ati i wneud hynny

11. tra byddwch chi'n ein helpu ni drwy weddïo droson ni. Wedyn bydd lot fawr o bobl yn diolch i Dduw am fod mor garedig tuag aton ni, yn ateb gweddïau cymaint o'i bobl.

12. Dŷn ni'n gallu dweud gyda chydwybod glir ein bod ni wedi bod yn gwbl agored ac yn ddidwyll bob amser. Mae'n arbennig o wir am y ffordd dŷn ni wedi delio gyda chi. Haelioni Duw sydd wrth wraidd y peth, nid doethineb bydol.

13. Dw i wedi siarad yn blaen yn fy llythyrau atoch chi – does dim i'w ddarllen rhwng y llinellau. Dych chi'n gwybod ei fod yn wir.

14. Dych chi wedi dechrau cydnabod hynny, a dw i'n gobeithio y byddwch yn dod i gydnabod y peth yn llawn. Wedyn pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl byddwch chi'n gallu bod yn falch ohonon ni a byddwn ni'n gallu bod yn falch ohonoch chi.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 1