Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 6:7-21 beibl.net 2015 (BNET)

7. Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni'n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw.

8. Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny.

9. Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy'n difetha ac yn dinistrio eu bywydau.

10. Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd, ac achosi pob math o loes a galar iddyn nhw eu hunain.

11. Ond rwyt ti, Timotheus, yn was i Dduw. Felly dianc di rhag pethau felly. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn, fel mae Duw am i ti fyw – yn ffyddlon, yn llawn cariad, yn dal ati drwy bopeth ac yn addfwyn.

12. Mae'r bywyd Cristnogol fel gornest yn y mabolgampau, a rhaid i ti ymdrechu i ennill. Bywyd tragwyddol ydy'r wobr. Mae Duw wedi dy alw di i hyn ac rwyt wedi dweud yn glir dy fod di'n credu o flaen llawer o dystion.

13. Dw i'n rhoi'r siars yma i ti – a hynny o flaen Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth, ac o flaen Iesu y Meseia, a ddwedodd y gwir yn glir pan oedd ar brawf o flaen Pontius Peilat.

14. Gwna bopeth rwyt ti wedi dy alw i'w wneud, nes bydd yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl.

15. Bydd hynny'n digwydd pan mae Duw'n dweud – sef y Duw bendigedig, yr un sy'n rheoli pob peth, Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi!

16. Fe ydy'r unig un sy'n anfarwol yn ei hanfod. Mae'n byw mewn golau llachar na ellir mynd yn agos ato, a does neb wedi ei weld, nac yn mynd i allu ei weld. Pob anrhydedd iddo! Boed iddo deyrnasu am byth! Amen!

17. Dywed wrth bobl gyfoethog y byd hwn i beidio bod yn falch, a hefyd i beidio meddwl fod rhywbeth sydd mor ansicr â chyfoeth yn bodloni. Duw ydy'r un i ymddiried ynddo. Mae'n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni, i ni ei fwynhau.

18. Dywed wrthyn nhw am ddefnyddio'u harian i wneud daioni. Dylen nhw fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael, ac yn barod i rannu bob amser.

19. Wrth wneud hynny byddan nhw'n casglu trysor go iawn iddyn nhw eu hunain – sylfaen gadarn i'r dyfodol, iddyn nhw gael gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn.

20. Timotheus, cadw'n saff bopeth mae Duw wedi ei roi yn dy ofal. Cadw draw oddi wrth glebran bydol a'r math nonsens dwl sy'n cael ei alw ar gam yn ‛wybodaeth‛.

21. Dyma beth mae rhai yn ei broffesu, ac wrth wneud hynny maen nhw wedi crwydro oddi wrth beth sy'n wir.Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol Duw!

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 6