6. Ond mae byw'n dduwiol yn cyfoethogi bywyd go iawn pan dŷn ni'n fodlon gyda beth sydd gynnon ni yn faterol.
7. Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni'n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw.
8. Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny.
9. Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy'n difetha ac yn dinistrio eu bywydau.
10. Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd, ac achosi pob math o loes a galar iddyn nhw eu hunain.
11. Ond rwyt ti, Timotheus, yn was i Dduw. Felly dianc di rhag pethau felly. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn, fel mae Duw am i ti fyw – yn ffyddlon, yn llawn cariad, yn dal ati drwy bopeth ac yn addfwyn.