Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 4:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. Pobl ddauwynebog a chelwyddog sy'n dysgu pethau felly. Pobl heb gydwybod, fel petai wedi ei serio gyda haearn poeth.

3. Maen nhw'n rhwystro pobl rhag priodi ac yn gorchymyn iddyn nhw beidio bwyta rhai bwydydd. Ond Duw greodd y bwydydd hynny i'w derbyn yn ddiolchgar gan y rhai sy'n credu ac sy'n gwybod beth ydy'r gwir.

4. Ac mae popeth mae Duw wedi ei greu yn dda! Felly dylen ni dderbyn y cwbl yn ddiolchgar.

5. Mae Duw wedi dweud ei fod yn iawn i'w fwyta a dylen ni ddiolch amdano mewn gweddi.

6. Os gwnei di ddysgu hyn i bawb arall, a bwydo dy hun ar wirioneddau'r ffydd a'r ddysgeidiaeth dda rwyt wedi ei derbyn, byddi di'n was da i Iesu y Meseia.

7. Paid gwastraffu dy amser gyda chwedlau sy'n ddim byd ond coelion gwrachod. Yn lle hynny gwna dy orau glas i fyw fel mae Duw am i ti fyw.

8. Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach – mae'n dda i ti yn y bywyd hwn a'r bywyd sydd i ddod.

9. Ydy, mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb gredu'r peth.

10. Dyma'r rheswm pam dŷn ni'n dal ati i weithio'n galed ac ymdrechu. Dŷn ni wedi ymddiried yn y Duw byw, sy'n achub pob math o bobl – pawb sy'n credu.

11. Gwna'n siŵr fod pobl yn gwybod y pethau hyn a dysga nhw.

12. Paid gadael i neb dy ddibrisio am dy fod di'n ifanc. Bydd yn esiampl dda i'r credinwyr yn y ffordd rwyt ti'n siarad, a sut rwyt ti'n byw, yn dy gariad at eraill, dy ffydd a'th fywyd glân.

13. Hyd nes bydda i wedi cyrraedd, canolbwyntia ar ddarllen yr ysgrifau sanctaidd yn gyhoeddus, annog y bobl a'u dysgu nhw.

14. Paid ag esgeuluso'r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.

15. Gwna'r pethau yma yn flaenoriaeth. Bwrw iddi i'w gwneud, er mwyn i bawb weld sut rwyt ti'n dod yn dy flaen.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 4