Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 3:8-15 beibl.net 2015 (BNET)

8. A'r rhai sy'n gwasanaethu'r tlawd ar ran yr eglwys yr un fath. Rhaid iddyn nhw fod yn bobl sy'n haeddu eu parchu, ddim yn ddauwynebog, ddim yn yfed yn ormodol, nac yn elwa ar draul pobl eraill.

9. Rhaid iddyn nhw ddal gafael yn beth mae Duw wedi ei ddangos sy'n wir, a byw gyda chydwybod lân.

10. Dylai'r dynion hyn dreulio cyfnod ar brawf cyn cael eu penodi i wasanaethu. Wedyn byddan nhw'n gallu cael eu penodi os oes dim rheswm i beidio gwneud hynny.

11. A'r un fath gyda'r gwragedd hynny sy'n gwasanaethu. Dylen nhw fod yn wragedd sy'n cael eu parchu; ddim yn rhai sy'n hel clecs maleisus, ond yn wragedd cyfrifol ac yn rai dŷn ni'n gallu dibynnu'n llwyr arnyn nhw.

12. Dylai unrhyw ddyn sy'n gwasanaethu'r tlawd ar ran yr eglwys fod yn ffyddlon i'w wraig, ac yn gallu cadw trefn ar ei blant ac ar ei gartref.

13. Bydd y rhai sydd wedi gwasanaethu'n dda yn cael enw da ac yn gallu siarad yn hyderus am gredu yn y Meseia Iesu.

14. Dw i'n gobeithio dod i dy weld di'n fuan. Ond dw i'n ysgrifennu atat ti rhag ofn i mi gael fy rhwystro,

15. er mwyn i ti wybod sut dylai'r bobl sy'n perthyn i deulu Duw ymddwyn. Dyma eglwys y Duw byw, sy'n cynnal y gwirionedd fel mae sylfaen a thrawst yn dal tŷ gyda'i gilydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 3