Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 1:4-16 beibl.net 2015 (BNET)

4. yn gwastraffu eu hamser yn astudio chwedlau a rhestrau achau diddiwedd. Dydy pethau felly ddim ond yn arwain i ddyfalu gwag. Dyn nhw'n gwneud dim i hybu cynllun Duw i achub pobl, sef cael pobl i gredu.

5. Y rheswm pam dw i'n dweud hyn ydy am fy mod i eisiau i Gristnogion garu ei gilydd. Dw i am i'w cymhellion nhw fod yn bur, eu cydwybod nhw'n lân, ac eisiau iddyn nhw drystio Duw go iawn.

6. Mae rhai wedi crwydro oddi wrth y pethau yma. Maen nhw'n treulio eu hamser yn siarad nonsens!

7. Maen nhw'n honni bod yn arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig, ond does ganddyn nhw ddim clem! Dyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n sôn amdano er eu bod nhw'n siarad mor awdurdodol!

8. Dŷn ni'n gwybod fod Cyfraith Duw yn dda os ydy hi'n cael ei thrin yn iawn.

9. Dŷn ni'n gwybod hefyd mai dim ar gyfer y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn y cafodd y Gyfraith ei rhoi. Mae hi ar gyfer y bobl hynny sy'n anufudd ac yn gwrthryfela, pobl annuwiol a phechadurus, pobl sy'n parchu dim ac yn ystyried dim byd yn gysegredig. Ar gyfer y rhai sy'n lladd eu tadau a'u mamau, llofruddion,

10. pobl sy'n pechu'n rhywiol, yn wrywgydwyr gweithredol, pobl sy'n prynu a gwerthu caethweision, yn dweud celwydd, ac sy'n rhoi tystiolaeth gelwyddog, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy'n groes i ddysgeidiaeth gywir.

11. Mae dysgeidiaeth felly yn gyson â'r newyddion da sy'n dweud wrthon ni mor wych ydy'r Duw bendigedig! Dyma'r newyddion da mae e wedi rhoi'r cyfrifoldeb i mi ei gyhoeddi.

12. Dw i mor ddiolchgar fod ein Harglwydd, y Meseia Iesu, yn gweld ei fod yn gallu dibynnu arna i. Fe sy'n rhoi'r nerth i mi, ac mae wedi fy newis i weithio iddo.

13. Cyn dod yn Gristion roeddwn i'n arfer cablu ei enw; roeddwn i'n erlid y bobl oedd yn credu ynddo, ac yn greulon iawn atyn nhw. Ond roedd Duw yn garedig ata i – doeddwn i ddim yn credu nac yn sylweddoli beth oeddwn i'n ei wneud.

14. Roedd yr Arglwydd mor anhygoel o garedig ata i! Des i gredu, a chael fy llenwi â'r cariad sy'n dod oddi wrth y Meseia Iesu.

15. Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb ei gredu: Daeth y Meseia Iesu i'r byd i achub pechaduriaid – a fi ydy'r gwaetha ohonyn nhw.

16. Ond mae Duw wedi maddau i mi, y pechadur gwaetha, er mwyn i bawb weld amynedd di-ben-draw y Meseia Iesu! Dw i'n esiampl berffaith o'r math o bobl fyddai'n dod i gredu ynddo ac yn derbyn bywyd tragwyddol.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 1