3. Fel y gwnes i pan roeddwn i'n teithio i dalaith Macedonia, dw i'n pwyso arnat ti eto i aros yn Effesus. Rhaid i ti roi stop ar y rhai hynny sy'n dysgu pethau sydd ddim yn wir,
4. yn gwastraffu eu hamser yn astudio chwedlau a rhestrau achau diddiwedd. Dydy pethau felly ddim ond yn arwain i ddyfalu gwag. Dyn nhw'n gwneud dim i hybu cynllun Duw i achub pobl, sef cael pobl i gredu.
5. Y rheswm pam dw i'n dweud hyn ydy am fy mod i eisiau i Gristnogion garu ei gilydd. Dw i am i'w cymhellion nhw fod yn bur, eu cydwybod nhw'n lân, ac eisiau iddyn nhw drystio Duw go iawn.
6. Mae rhai wedi crwydro oddi wrth y pethau yma. Maen nhw'n treulio eu hamser yn siarad nonsens!