Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 4:8-14 beibl.net 2015 (BNET)

8. Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau.

9. Agorwch eich cartrefi i'ch gilydd – bod yn groesawgar, a peidio cwyno.

10. Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu'i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni trwy wasanaethu pobl eraill.

11. Dylai pwy bynnag sy'n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo'i ddweud. Dylai pwy bynnag sy'n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda'r nerth mae Duw yn ei roi. Wedyn bydd Duw yn cael ei ganmol a'i addoli drwy'r cwbl, o achos beth wnaeth Iesu Grist. Ie, fe sydd biau'r anrhydedd i gyd, a'r grym hefyd, a hynny am byth! Amen!

12. Ffrindiau annwyl, peidiwch synnu eich bod chi'n mynd trwy'r ffwrn dân ar hyn o bryd, fel petai rhywbeth annisgwyl yn digwydd i chi.

13. Dylech chi fod yn hapus am eich bod yn cael dioddef fel y gwnaeth y Meseia. Pan fydd e'n dod i'r golwg eto yn ei holl ysblander cewch brofi llawenydd cwbl wefreiddiol.

14. Mae'n fendith fawr i chi gael eich sarhau am eich bod yn dilyn y Meseia, am ei fod yn dangos fod Ysbryd yr Un gogoneddus, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys arnoch chi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 4