Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 4:14-19 beibl.net 2015 (BNET)

14. Mae'n fendith fawr i chi gael eich sarhau am eich bod yn dilyn y Meseia, am ei fod yn dangos fod Ysbryd yr Un gogoneddus, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys arnoch chi.

15. Ddylai neb ohonoch chi ddioddef am fod yn llofrudd neu'n lleidr neu am gyflawni rhyw drosedd arall – na hyd yn oed am fusnesa.

16. Ond peidiwch bod â chywilydd os ydych chi'n dioddef am fod yn Gristion – dylech ganmol Duw am i chi gael y fraint o'i gynrychioli.

17. Mae'n bryd i'r farn ddechrau, a phobl Dduw ydy'r rhai cyntaf i gael eu barnu. Ac os ydyn ni'n cael ein barnu gyntaf, beth fydd yn digwydd i'r rhai hynny sydd ddim yn ufudd i newyddion da Duw?

18. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Os mai o drwch blewyn mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dianc beth ddaw o bobl annuwiol sy'n anufudd i Dduw?”

19. Felly, os dych chi'n dioddef am mai dyna ewyllys Duw, dylech ymddiried eich hunain i ofal y Duw ffyddlon wnaeth eich creu chi, a dal ati i wneud daioni.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 4