Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 4:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly, am fod y Meseia wedi dioddef yn gorfforol, byddwch chithau'n barod i wneud yr un peth. Mae'r rhai hynny sy'n barod i ddioddef yn gorfforol wedi troi cefn ar bechod.

2. Yn lle byw gweddill eich bywydau yn ceisio bodloni eich chwantau dynol, gwnewch beth mae Duw eisiau.

3. Dych chi wedi treulio digon o amser yn y gorffennol yn gwneud beth mae'r paganiaid yn mwynhau ei wneud – byw'n anfoesol yn rhywiol a gadael i'r chwantau gael penrhyddid, meddwi a slotian yfed mewn partïon gwyllt, a phopeth ffiaidd arall sy'n digwydd wrth addoli eilun-dduwiau.

4. Maen nhw bellach yn meddwl ei bod yn rhyfedd iawn eich bod chi ddim yn dal i ymuno gyda nhw nac yn cael eich cario gyda'r llif i'r math yna o fywyd ofer. Felly maen nhw'n eich rhegi a'ch enllibio chi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 4