Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 3:5-15 beibl.net 2015 (BNET)

5. Dyna sut roedd gwragedd duwiol y gorffennol yn gwneud eu hunain yn hardd. Roedd eu gobaith nhw yn Nuw ac roedden nhw'n ymostwng i'w gwŷr.

6. Roedd Sara, er enghraifft, yn ufudd i Abraham (ac yn ei alw'n ‛meistr‛.) Dych chi i fod yr un fath â hi, felly gwnewch ddaioni a peidiwch bod ofn dim byd.

7. Agwedd felly ddylai fod gynnoch chi wŷr hefyd. Dylech feddwl bob amser am les eich gwragedd, a'u parchu nhw a gofalu amdanyn nhw. Y wraig ydy'r partner gwannaf yn gorfforol, ond mae'n rhaid cofio eich bod chi'ch dau yn rhannu'r bywyd mae Duw wedi ei roi mor hael. Os na wnewch chi hyn fydd Duw ddim yn gwrando ar eich gweddïau chi.

8. Ac yn olaf, dylai pob un ohonoch chi ddysgu dod ymlaen gyda'ch gilydd. Dylech gydymdeimlo â'ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â'ch gilydd.

9. Peidiwch talu'r pwyth yn ôl drwy enllibio rhywun am eu bod nhw wedi eich enllibio chi. Yn lle hynny, bendithiwch nhw! Dyna mae Duw am i chi ei wneud, a bydd e wedyn yn eich bendithio chi.

10. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Os dych chi am fwynhau bywyd a gweld dyddiau da, rhaid i chi reoli'ch tafod. Dweud dim byd cas am neb, a stopio twyllo.

11. Trowch gefn ar ddrygioni a gwneud daioni; gwnewch eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb.

12. Mae'r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn gwrando'n astud ar eu gweddïau nhw; ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.”

13. Does neb yn gallu gwneud niwed go iawn i chi os dych chi'n frwd i wneud daioni.

14. Hyd yn oed os bydd rhaid i chi ddioddef am wneud beth sy'n iawn, cewch eich bendithio'n fawr gan Dduw. “Peidiwch eu hofni nhw a peidiwch poeni.”

15. Addolwch y Meseia â'ch holl galon, a'i gydnabod e'n Arglwydd ar eich bywydau. Byddwch barod bob amser i roi ateb i bwy bynnag sy'n gofyn i chi esbonio beth ydy'r gobaith sydd gynnoch chi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 3