Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 3:18-22 beibl.net 2015 (BNET)

18. Roedd y Meseia wedi dioddef trwy farw dros bechodau un waith ac am byth, er mwyn dod â chi at Dduw. Ie, yr un wnaeth bopeth yn iawn yn marw dros y rhai wnaeth bopeth o'i le! Cafodd ei ladd yn gorfforol, ond daeth yr Ysbryd ag e yn ôl yn fyw.

19. Ac yn nerth yr un Ysbryd aeth i gyhoeddi ei fuddugoliaeth i'r ysbrydion yn eu cyrchfan.

20. Roedd rhai yn anufudd ers talwm, pan oedd Duw yn disgwyl yn amyneddgar, a Noa yn adeiladu'r llong fawr, sef yr arch. A criw bach o bobl gafodd eu hachub rhag boddi yn y dŵr (wyth i fod yn fanwl gywir).

21. Ac mae bedydd, sy'n cyfateb i hynny, yn eich achub chi. Dim bod y ddefod ei hun yn gwneud rhywun yn lân, ond bod rhywun yn onest ac yn ddidwyll yn ymrwymo i ddilyn Duw. Mae dŵr y bedydd yn achub am fod Iesu, y Meseia, wedi ei godi yn ôl yn fyw.

22. Ac mae e bellach yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y nefoedd, gyda'r angylion a'r awdurdodau a'r pwerau ysbrydol i gyd yn plygu iddo.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 3