Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 3:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyna'n union sut dylech chi'r gwragedd priod ymostwng i'ch gwŷr. Wedyn bydd y dynion hynny sy'n gwrthod credu neges Duw yn cael eu hennill gan y ffordd dych chi'n ymddwyn, heb i chi orfod dweud gair.

2. Byddan nhw'n dod i gredu wrth weld eich bywydau duwiol a glân chi.

3. Dim y colur ar y tu allan sy'n eich gwneud chi'n ddeniadol, na phethau fel steil gwallt, tlysau aur a dillad ffasiynol.

4. Beth sy'n bwysig ydy'r hyn ydych chi'r tu mewn – y math o harddwch fydd byth yn diflannu, sef ysbryd addfwyn a thawel. Dyna beth sy'n werthfawr yng ngolwg Duw.

5. Dyna sut roedd gwragedd duwiol y gorffennol yn gwneud eu hunain yn hardd. Roedd eu gobaith nhw yn Nuw ac roedden nhw'n ymostwng i'w gwŷr.

6. Roedd Sara, er enghraifft, yn ufudd i Abraham (ac yn ei alw'n ‛meistr‛.) Dych chi i fod yr un fath â hi, felly gwnewch ddaioni a peidiwch bod ofn dim byd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 3