Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 2:11-25 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy'ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma. Felly dw i'n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae'r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Mae nhw'n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni.

12. Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu'ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw'n gweld y pethau da dych chi'n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw'n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw.

13. Dylech chi ddangos parch at bobl eraill, yn union fel y gwnaeth yr Arglwydd ei hun. Mae hyn yn cynnwys yr ymerawdwr sy'n teyrnasu dros y cwbl,

14. a'r llywodraethwyr sydd wedi eu penodi ganddo i gosbi pobl sy'n gwneud drwg ac i ganmol y rhai sy'n gwneud da.

15. (Mae Duw eisiau i chi wneud daioni i gau cegau'r bobl ffôl sy'n deall dim.)

16. Dych chi'n rhydd, ond peidiwch defnyddio'ch rhyddid fel esgus i wneud drygioni. Dylech chi, sydd ddim ond yn gwasanaethu Duw,

17. ddangos parch at bawb, caru eich cyd-Gristnogion, ofni Duw a pharchu'r ymerawdwr.

18. Dylech chi sy'n gaethweision barchu eich meistri – nid dim ond os ydyn nhw'n feistri da a charedig, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n greulon.

19. Mae'n plesio Duw pan dych chi'n penderfynu bod yn barod i ddioddef hyd yn oed pan dych chi'n cael eich cam-drin.

20. Does dim rheswm i ganmol rhywun am fodloni cael ei gosbi os ydy e wedi gwneud drwg. Ond os ydych chi'n fodlon dioddef er eich bod chi wedi gwneud y peth iawn, mae hynny'n plesio Duw.

21. Dyna mae Duw wedi'ch galw chi i'w wneud. A'r esiampl i chi ei dilyn ydy'r Meseia yn dioddef yn eich lle chi:

22. “Wnaeth e ddim pechu, a wnaeth e ddim twyllo neb.”

23. Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a'i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e'n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu'n deg.

24. Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, a'n pechodau wedi mynd, allu byw i wneud beth sy'n iawn. Dych chi wedi cael eich iacháu am ei fod e wedi ei glwyfo!

25. Roeddech chi'n arfer bod fel defaid wedi mynd ar goll, ond dych chi bellach wedi dod yn ôl at y Bugail sy'n gofalu amdanoch chi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 2