Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 2:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly, rhaid i chi gael gwared â phopeth drwg o'ch bywydau – pob twyll, balchder dauwynebog, cenfigennu wrth eraill ac enllibio pobl.

2. Yn lle gadael i bethau felly eich rheoli chi dylech chi fod yn crefu am y llaeth ysbrydol pur fydd yn gwneud i chi dyfu yn eich ffydd.

3. Gan eich bod chi eisoes wedi cael blas ar mor dda ydy'r Arglwydd, dylech fod yr un fath â babi bach newydd ei eni sydd eisiau dim byd arall ond llaeth ei fam.

4. Mae'r Arglwydd fel carreg sylfaen, ond un sy'n fyw. Dyma'r garreg gafodd ei gwrthod gan bobl, ond roedd wedi ei dewis gan Dduw ac yn werthfawr iawn yn ei olwg. Felly wrth i chi glosio at yr Arglwydd

5. dych chi fel cerrig sy'n fyw ac yn anadlu, ac mae Duw yn eich defnyddio chi i adeiladu ei ‛deml‛ ysbrydol. A chi hefyd ydy'r offeiriaid sydd wedi cael eich dewis i gyflwyno aberthau ysbrydol i Dduw. Aberthau sy'n dderbyniol o achos beth wnaeth Iesu Grist.

6. Dyma pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn: “Edrychwch! Dw i'n gosod yn Jerwsalem garreg sylfaen werthfawr sydd wedi ei dewis gen i. Fydd y sawl sy'n credu ynddo byth yn cael ei siomi.”

7. Ydy, mae'r garreg yma'n werthfawr yn eich golwg chi sy'n credu. Ond i'r rhai sy'n gwrthod credu: “Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen,”

8. Hon hefyd ydy'r “garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.” Y rhai sy'n gwrthod gwneud beth mae Duw'n ei ddweud sy'n baglu. Dyna'n union oedd wedi ei drefnu ar eu cyfer nhw.

9. Ond dych chi'n bobl sydd wedi eich dewis yn offeiriaid i wasanaethu'r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy'n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o'r tywyllwch i mewn i'w olau bendigedig.

10. Ar un adeg doeddech chi'n neb o bwys, ond bellach chi ydy pobl Dduw. Ar un adeg doeddech chi ddim wedi profi trugaredd Duw, ond bellach dych wedi profi ei drugaredd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 2