Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 4 beibl.net 2015 (BNET)

Profi'r ysbrydion

1. Ffrindiau annwyl, peidiwch credu pawb sy'n dweud eu bod nhw'n siarad drwy'r Ysbryd. Rhaid i chi eu profi nhw i weld os ydy beth maen nhw'n ddweud wir yn dod oddi wrth Dduw. Mae digon o broffwydi ffals o gwmpas.

2. Dyma sut mae nabod y rhai sydd ag Ysbryd Duw ganddyn nhw: Mae pob un sy'n cyffesu fod y Meseia Iesu wedi dod yn berson real o gig a gwaed yn dod oddi wrth Dduw.

3. Ond os ydy rhywun yn gwrthod cydnabod hyn am Iesu, dydy hwnnw ddim yn dod oddi wrth Dduw. Mae'r ysbryd sydd gan y person hwnnw yn dod oddi wrth elyn y Meseia. Dych chi wedi clywed ei fod yn mynd i ddod. Wel, y gwir ydy, mae e eisoes ar waith.

4. Ond blant annwyl, dych chi'n perthyn i Dduw. Dych chi eisoes wedi ennill y frwydr yn erbyn y proffwydi ffals yma, am fod yr Ysbryd sydd ynoch chi yn gryfach o lawer na'r un sydd yn y byd.

5. I'r byd annuwiol maen nhw'n perthyn, ac maen nhw'n siarad iaith y byd hwnnw, ac mae pobl y byd yn gwrando arnyn nhw.

6. Ond dŷn ni'n perthyn i Dduw, felly'r rhai sy'n nabod Duw sy'n gwrando arnon ni. Dydy'r rhai sydd ddim yn perthyn i Dduw ddim yn gwrando arnon ni. Dyma sut mae gwybod os mai Ysbryd y gwirionedd neu ysbryd twyll sydd gan rywun.

Cariad Duw a'n cariad ni

7. Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu'n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb sy'n caru fel hyn wedi ei eni'n blentyn i Dduw ac yn nabod Duw.

8. Os ydy'r cariad hwn ddim gan rywun, dydy'r person hwnnw ddim yn nabod Duw chwaith – am mai cariad ydy Duw.

9. Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i'r byd, er mwyn i ni gael bywyd trwyddo.

10. Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni'n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi'n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni.

11. Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi'n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu'n gilydd.

12. Does neb erioed wedi gweld Duw; ond os ydyn ni'n caru'n gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni.

13. Dŷn ni'n gwybod ein bod ni'n byw ynddo fe, a bod ei fywyd e ynon ni, am ei fod yn rhoi ei Ysbryd i ni.

14. A dŷn ni wedi gweld ac yn gallu tystio fod y Tad wedi anfon ei Fab i achub y byd.

15. Os ydy rhywun yn cydnabod mai Iesu ydy Mab Duw, mae Duw yn byw ynddyn nhw a hwythau yn Nuw.

16. Dŷn ni'n gwybod faint mae Duw yn ein caru ni, a dŷn ni'n dibynnu'n llwyr ar y cariad hwnnw. Cariad ydy Duw. Mae'r rhai sy'n byw yn y cariad yma yn byw yn Nuw, ac mae Duw yn byw ynddyn nhw.

17. Am bod cariad yn beth real yn ein plith ni, dŷn ni'n gallu bod yn gwbl hyderus ar y diwrnod pan fydd Duw yn barnu. Dŷn ni'n byw yn y byd yma fel gwnaeth Iesu Grist fyw.

18. Does dim ofn yn agos at y cariad yma, achos mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn ni'n ofnus mae'n dangos ein bod ni'n disgwyl cael ein cosbi, a'n bod ni ddim wedi cael ein meddiannu'n llwyr gan gariad Duw.

19. Dŷn ni'n caru'n gilydd am ei fod e wedi'n caru ni gyntaf.

20. Pwy bynnag sy'n dweud ei fod yn caru Duw ac eto ar yr un pryd yn casáu brawd neu chwaer, mae'n dweud celwydd. Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall mae'n ei weld, sut mae e'n gallu caru'r Duw dydy e erioed wedi ei weld?

21. Dyma'r gorchymyn mae Duw wedi ei roi i ni: Rhaid i'r sawl sy'n ei garu e, garu ei gyd-Gristnogion hefyd.