Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 3:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Meddyliwch mor aruthrol fawr ydy'r cariad mae'r Tad wedi ei ddangos aton ni! Dŷn ni'n cael ein galw'n blant Duw! Ac mae'n berffaith wir! Y rheswm pam dydy'r byd ddim yn derbyn hynny ydy eu bod nhw ddim wedi nabod y Meseia chwaith.

2. Ffrindiau annwyl, dŷn ni'n blant Duw nawr! Dŷn ni ddim yn gallu dechrau dychmygu sut fyddwn ni yn y byd sydd i ddod! Ond dŷn ni'n gwybod gymaint â hyn: pan fydd Iesu'n dod yn ôl i'r golwg byddwn ni'n debyg iddo. Cawn ei weld e yn ei holl ysblander!

3. Mae pawb sydd â'r gobaith hwn ganddyn nhw yn eu cadw eu hunain yn lân, fel mae'r Meseia ei hun yn berffaith lân.

4. Mae pawb sy'n pechu yn torri'r Gyfraith; yn wir, gwneud beth sy'n groes i Gyfraith Duw ydy pechod.

5. Ond dych chi'n gwybod fod Iesu wedi dod er mwyn cymryd ein pechodau ni i ffwrdd. Does dim pechod o gwbl ynddo fe,

6. felly does neb sy'n byw mewn perthynas ag e yn dal ati i bechu. Dydy'r rhai sy'n dal ati i bechu ddim wedi ei ddeall na'i nabod e.

7. Blant annwyl, peidiwch gadael i unrhyw un eich camarwain chi. Mae rhywun sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos ei fod yn gyfiawn, yn union fel y mae'r Meseia yn gyfiawn.

8. Mae'r rhai sy'n mynnu pechu yn dod o'r diafol. Dyna mae'r diafol wedi ei wneud o'r dechrau – pechu! Ond y rheswm pam ddaeth Mab Duw i'r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol.

9. Dydy'r rhai sydd wedi eu geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw wedi ei blannu ynddyn nhw fel hedyn. Dyn nhw ddim yn gallu dal ati i bechu am eu bod nhw wedi cael eu geni'n blant i Dduw.

10. Felly mae'n gwbl amlwg pwy sy'n blant i Dduw a phwy sy'n blant i'r diafol: Dydy'r bobl hynny sydd ddim yn gwneud beth sy'n iawn ddim yn blant i Dduw – na chwaith y bobl hynny sydd ddim yn caru'r brodyr a'r chwiorydd.

11. Dyma'r neges dych chi wedi ei chlywed o'r dechrau cyntaf: Fod yn rhaid i ni garu'n gilydd.

12. Rhaid i ni beidio bod fel Cain, oedd yn perthyn i'r un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham wnaeth e ladd ei frawd? Am fod Cain wedi gwneud drwg, a'i frawd wedi gwneud y peth iawn.

13. Felly, frodyr a chwiorydd, peidiwch synnu os ydy'r byd yn eich casáu chi!

14. Dŷn ni'n caru'n gilydd, ac felly'n gwybod ein bod ni wedi symud o fod yn farw'n ysbrydol i fod yn fyw'n ysbrydol. Mae unrhyw un sydd ddim yn dangos cariad felly yn dal yn farw'n ysbrydol.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 3