Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 9:5-19 beibl.net 2015 (BNET)

5. Oes gynnon ni ddim hawl i briodi a mynd â'n gwraig sy'n Gristion o gwmpas gyda ni? – dyna mae ei gynrychiolwyr personol eraill, a brodyr yr Arglwydd a Pedr yn ei wneud.

6. Neu ai fi a Barnabas ydy'r unig rai sy'n gorfod gweithio am eu bywoliaeth?

7. Ydy milwr yn y fyddin yn gorfod talu ei gostau ei hun? Ydy rhywun yn plannu gwinllan a byth yn cael bwyta'r grawnwin? Neu'n gofalu am braidd a byth yn cael yfed y llaeth?

8. A peidiwch meddwl mai dim ond dadlau ar sail enghreifftiau o fywyd pob dydd wna i. Ydy Cyfraith Duw ddim yn dweud yr un peth?

9. Ydy, mae wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith: “Peidiwch rhwystro'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta.” Ai dim ond poeni am ychen mae Duw?

10. Oedd e ddim yn dweud hyn er ein mwyn ni hefyd? Wrth gwrs ei fod e – dyna pam gafodd ei ysgrifennu. Pan mae rhywun yn aredig y tir neu'n dyrnu'r cynhaeaf, mae'n disgwyl cael cyfran o'r cnwd!

11. Felly os wnaethon ni hau hadau ysbrydol yn eich plith chi, ydyn ni'n gofyn gormod i ddisgwyl cael peth ffrwyth materol gynnoch chi?

12. Os ydy eraill yn cael eu cynnal gynnoch chi, mae'n siŵr fod gynnon ni hawl i ddisgwyl hynny! Ond wnaethon ni erioed fanteisio ar yr hawl. Roedden ni'n fodlon dioddef unrhyw beth er mwyn osgoi peri rhwystr i'r newyddion da am y Meseia.

13. Ydych chi ddim yn deall fod y rhai sy'n gweithio yn y deml yn cael eu bwyd yn y deml, a'r rhai sy'n gwasanaethu wrth yr allor yn cael cyfran o beth sy'n cael ei offrymu ar yr allor?

14. Yn union yr un fath, mae'r Arglwydd wedi gorchymyn fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da i gael ennill bywoliaeth drwy'r newyddion da.

15. Ond dw i fy hun ddim wedi manteisio ar fy hawliau o gwbl. A dw i ddim yn ysgrifennu hyn yn y gobaith o gael rhywbeth chwaith! Byddai'n well gen i farw na bod rhywun yn cymryd sail fy ymffrost oddi arna i.

16. Dydy hyd yn oed y ffaith fy mod i'n cyhoeddi'r newyddion da ddim yn rhoi sail i mi frolio – does gen i ddim dewis! Mae'n rhaid i mi gyhoeddi'r neges! Allwn i ddim dioddef peidio cael cyhoeddi'r newyddion da!

17. Petawn i'n cyhoeddi'r neges am fy mod i'n dewis gwneud hynny gallwn i dderbyn gwobr. Ond ddim felly mae hi – y cwbl dw i'n ei wneud ydy cyflawni'r dasg sydd wedi cael ei rhoi i mi.

18. Felly beth ydy'r wobr i mi? Hyn yn syml: Fy mod yn cyhoeddi'r newyddion da i bobl yn rhad ac am ddim, heb fanteisio ar fy hawliau fel pregethwr.

19. Ydw, dw i'n rhydd go iawn. Dw i ddim yn gorfod ufuddhau i unrhyw un am eu bod nhw'n talu i mi. Ond ar y llaw arall, dw i'n gwneud fy hun yn gaethwas i bawb, er mwyn ennill cymaint o bobl ag sydd modd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 9