Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 9:14-26 beibl.net 2015 (BNET)

14. Yn union yr un fath, mae'r Arglwydd wedi gorchymyn fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da i gael ennill bywoliaeth drwy'r newyddion da.

15. Ond dw i fy hun ddim wedi manteisio ar fy hawliau o gwbl. A dw i ddim yn ysgrifennu hyn yn y gobaith o gael rhywbeth chwaith! Byddai'n well gen i farw na bod rhywun yn cymryd sail fy ymffrost oddi arna i.

16. Dydy hyd yn oed y ffaith fy mod i'n cyhoeddi'r newyddion da ddim yn rhoi sail i mi frolio – does gen i ddim dewis! Mae'n rhaid i mi gyhoeddi'r neges! Allwn i ddim dioddef peidio cael cyhoeddi'r newyddion da!

17. Petawn i'n cyhoeddi'r neges am fy mod i'n dewis gwneud hynny gallwn i dderbyn gwobr. Ond ddim felly mae hi – y cwbl dw i'n ei wneud ydy cyflawni'r dasg sydd wedi cael ei rhoi i mi.

18. Felly beth ydy'r wobr i mi? Hyn yn syml: Fy mod yn cyhoeddi'r newyddion da i bobl yn rhad ac am ddim, heb fanteisio ar fy hawliau fel pregethwr.

19. Ydw, dw i'n rhydd go iawn. Dw i ddim yn gorfod ufuddhau i unrhyw un am eu bod nhw'n talu i mi. Ond ar y llaw arall, dw i'n gwneud fy hun yn gaethwas i bawb, er mwyn ennill cymaint o bobl ag sydd modd.

20. Dw i'n siarad â'r Iddewon fel Iddew, er mwyn ennill yr Iddewon. Gyda phawb sy'n dilyn Cyfraith Moses dw i'n siarad fel un sy'n dilyn y Gyfraith. Dw i fy hun ddim yn rhwym i ofynion Cyfraith Moses, ond dw i am ennill y rhai sydd yn dilyn y Gyfraith.

21. Gyda'r rhai sydd ddim yn dilyn Cyfraith Moses dw i'n siarad fel un sydd heb y Gyfraith, er mwyn ennill y rhai sydd heb y Gyfraith (Wrth gwrs, dw i ddim yn rhydd o Gyfraith Dduw go iawn gan fy mod i'n ymostwng i gyfraith y Meseia).

22. Dw i'n uniaethu gyda'r rhai sy'n ‛wan‛ er mwyn ennill y gwan. Dw i wedi gwneud fy hun yn bob peth i bawb er mwyn gwneud popeth sy'n bosib i achub pobl.

23. Dw i'n gwneud hyn i gyd er mwyn y newyddion da ei hun, ac i minnau gael rhannu o'i fendithion.

24. Mae'r rhai sy'n rhedeg ras mewn gemau athletaidd i gyd yn cystadlu, ond dim ond un sy'n ennill y wobr. Dyna sut dylech chi redeg – fel rhai sy'n benderfynol o ennill.

25. I gystadlu yn y Gemau mae'n rhaid i athletwyr hyfforddi'n galed. Maen nhw'n gwneud hynny i ennill coron fydd ond yn para dros dro. Ond dŷn ni'n ymdrechu am goron fydd yn para am byth!

26. Felly dw i ddim yn rhedeg fel rhywun sydd wedi colli golwg ar y nod; a dw i ddim yn bocsio dim ond i ddyrnu'r awyr.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 9