Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 7:28-40 beibl.net 2015 (BNET)

28. Ond fyddi di ddim yn pechu os byddi di'n priodi; a dydy'r ferch ifanc ddim yn pechu wrth briodi chwaith. Ond mae'r argyfwng presennol yn rhoi parau priod dan straen ofnadwy, a dw i eisiau eich arbed chi rhag hynny.

29. Dw i am ddweud hyn ffrindiau: mae'r amser yn brin. O hyn ymlaen dim bod yn briod neu beidio ydy'r peth pwysica;

30. dim y galar na'r llawenydd ddaw i'n rhan; dim prynu pethau, wedi'r cwbl fyddwch chi ddim yn eu cadw nhw!

31. Waeth heb ag ymgolli yn y petheuach sydd gan y byd i'w gynnig, am fod y byd fel y mae yn dod i ben!

32. Ceisio'ch arbed chi rhag poeni'n ddiangen ydw i. Mae dyn dibriod yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd, a sut i'w blesio.

33. Ond rhaid i'r dyn priod feddwl am bethau eraill bywyd – sut i blesio'i wraig –

34. ac mae'n cael ei dynnu'r ddwy ffordd. Mae gwraig sydd bellach yn ddibriod, neu ferch sydd erioed wedi priodi, yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd. Ei nod hi ydy cysegru ei hun yn llwyr (gorff ac ysbryd) i'w wasanaethu e. Ond mae'n rhaid i wraig briod feddwl am bethau'r byd – sut i blesio'i gŵr.

35. Dw i'n dweud hyn er eich lles chi, dim i gyfyngu arnoch chi. Dw i am i ddim byd eich rhwystro chi rhag byw bywyd o ymroddiad llwyr i'r Arglwydd.

36. Os ydy rhywun yn teimlo ei fod yn methu rheoli ei nwydau gyda'r ferch mae wedi ei dyweddïo, a'r straen yn ormod, dylai wneud beth mae'n meddwl sy'n iawn. Dydy e ddim yn pechu trwy ei phriodi hi.

37. Ond os ydy dyn wedi penderfynu peidio ei phriodi – ac yn gwybod yn iawn beth mae'n ei wneud, a heb fod dan unrhyw bwysau – mae yntau'n gwneud y peth iawn.

38. Felly mae'r un sy'n priodi ei ddyweddi yn gwneud yn iawn, ond bydd yr un sy'n dewis peidio priodi yn gwneud peth gwell.

39. Mae gwraig ynghlwm i'w gŵr tra mae ei gŵr yn dal yn fyw. Ond os ydy'r gŵr yn marw, mae'r wraig yn rhydd i briodi dyn arall, cyn belled â'i fod yn Gristion.

40. Ond yn fy marn i byddai'n well iddi aros fel y mae – a dw i'n credu fod Ysbryd Duw wedi rhoi arweiniad i mi yn hyn o beth.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 7