Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 7:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Nawr, gadewch i ni droi at y cwestiynau oedd yn eich llythyr chi: “Mae'n beth da i ddyn beidio cael rhyw o gwbl,” meddech chi.

2. Na, na! Gan fod cymaint o anfoesoldeb rhywiol o gwmpas, dylai pob dyn gael ei wraig ei hun, a phob gwraig ei gŵr ei hun.

3. Ac mae gan ddyn gyfrifoldeb i gael perthynas rywiol gyda'i wraig, a'r un modd y wraig gyda'i gŵr.

4. Mae'r wraig wedi rhoi'r hawl ar ei chorff i'w gŵr, a'r un modd, mae'r gŵr wedi rhoi'r hawl ar ei gorff yntau i'w wraig.

5. Felly peidiwch gwrthod cael rhyw gyda'ch gilydd. Yr unig adeg i ymwrthod, falle, ydy os dych chi wedi cytuno i wneud hynny am gyfnod byr er mwyn rhoi mwy o amser i weddi. Ond dylech ddod yn ôl at eich gilydd yn fuan, rhag i Satan ddefnyddio'ch chwantau i'ch temtio chi.

6. Ond awgrym ydy hynny, dim gorchymyn.

7. Byddwn i wrth fy modd petai pawb yn gallu bod fel ydw i, ond dŷn ni i gyd yn wahanol. Mae Duw wedi rhoi perthynas briodasol yn rhodd i rai, a'r gallu i fyw'n sengl yn rhodd i eraill.

8. Dw i am ddweud hyn wrth y rhai sy'n weddw neu'n ddibriod: Byddai'n beth da iddyn nhw aros yn ddibriod, fel dw i wedi gwneud.

9. Ond os fedran nhw ddim rheoli eu teimladau, dylen nhw briodi. Mae priodi yn well na chael ein difa gan ein nwydau.

10. I'r rhai sy'n briod dyma dw i'n ei orchymyn (yr Arglwydd ddwedodd hyn, dim fi): Ddylai gwraig ddim gadael ei gŵr.

11. Ond os ydy hi eisoes wedi ei adael mae dau ddewis ganddi. Gall hi aros yn ddibriod neu fynd yn ôl at ei gŵr. A ddylai dyn ddim ysgaru ei wraig chwaith.

12. Ac wrth y gweddill ohonoch chi, dyma dw i'n ddweud (soniodd yr Arglwydd Iesu ddim am y peth): Os oes gan Gristion wraig sydd ddim yn credu ond sy'n dal yn fodlon byw gydag e, ddylai'r dyn hwnnw ddim gadael ei wraig.

13. Neu fel arall, os oes gan wraig ŵr sydd ddim yn credu, ond sy'n dal yn fodlon byw gyda hi, ddylai hithau ddim ei adael e.

14. Mae bywyd y gŵr sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei berthynas â'i wraig o Gristion, a bywyd gwraig sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei pherthynas hi â'i gŵr sy'n Gristion. Petai fel arall byddai eich plant chi'n ‛aflan‛, ond fel hyn, maen nhw hefyd yn lân.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 7