Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 6:8-14 beibl.net 2015 (BNET)

8. Ond na, mae'n well gynnoch chi dwyllo a gwneud cam â phobl eraill – hyd yn oed eich cyd-Gristnogion!

9. Ydych chi ddim yn sylweddoli bod pobl ddrwg ddim yn cael perthyn i deyrnasiad Duw? Peidiwch twyllo'ch hunain: Fydd dim lle yn ei deyrnas i bobl sy'n anfoesol yn rhywiol, yn addoli eilun-dduwiau, neu'n godinebu, i buteinwyr gwrywgydiol, gwrywgydwyr gweithredol,

10. lladron, pobl hunanol, meddwon, nag i neb sy'n enllibio pobl eraill ac yn eu twyllo nhw.

11. A dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg, ond dych chi wedi cael eich glanhau a'ch gwneud yn bur. Mae gynnoch berthynas iawn gyda Duw o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist a'r Ysbryd Glân wedi ei wneud drosoch chi.

12. Ond, “Mae gen i ryddid i wneud beth dw i eisiau” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er mod i'n rhydd i wneud beth dw i eisiau, fydd dim byd yn cael bod yn feistr arna i.

13. “Mae'n naturiol,” meddech chi wedyn, “fel bwyd i'r stumog a'r stumog i fwyd.” Falle wir, ond bydd Duw yn dinistrio'r ddau yn y diwedd. Chafodd y corff mo'i greu i fod yn anfoesol yn rhywiol – cafodd ei wneud i wasanaethu'r Arglwydd. Ac mae'r corff yn bwysig i'r Arglwydd!

14. Cododd Duw gorff yr Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, a bydd yn defnyddio'i nerth i godi ein cyrff ninnau yr un fath.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 6