Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 6:6-17 beibl.net 2015 (BNET)

6. Ydy'n iawn i Gristion erlyn Cristion arall? – a hynny o flaen pobl sydd ddim yn credu?

7. Mae achosion llys fel yma rhwng Cristnogion â'i gilydd yn dangos methiant llwyr. Byddai'n well petaech chi'n diodde'r cam, ac yn gadael i'r person arall eich twyllo chi!

8. Ond na, mae'n well gynnoch chi dwyllo a gwneud cam â phobl eraill – hyd yn oed eich cyd-Gristnogion!

9. Ydych chi ddim yn sylweddoli bod pobl ddrwg ddim yn cael perthyn i deyrnasiad Duw? Peidiwch twyllo'ch hunain: Fydd dim lle yn ei deyrnas i bobl sy'n anfoesol yn rhywiol, yn addoli eilun-dduwiau, neu'n godinebu, i buteinwyr gwrywgydiol, gwrywgydwyr gweithredol,

10. lladron, pobl hunanol, meddwon, nag i neb sy'n enllibio pobl eraill ac yn eu twyllo nhw.

11. A dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg, ond dych chi wedi cael eich glanhau a'ch gwneud yn bur. Mae gynnoch berthynas iawn gyda Duw o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist a'r Ysbryd Glân wedi ei wneud drosoch chi.

12. Ond, “Mae gen i ryddid i wneud beth dw i eisiau” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er mod i'n rhydd i wneud beth dw i eisiau, fydd dim byd yn cael bod yn feistr arna i.

13. “Mae'n naturiol,” meddech chi wedyn, “fel bwyd i'r stumog a'r stumog i fwyd.” Falle wir, ond bydd Duw yn dinistrio'r ddau yn y diwedd. Chafodd y corff mo'i greu i fod yn anfoesol yn rhywiol – cafodd ei wneud i wasanaethu'r Arglwydd. Ac mae'r corff yn bwysig i'r Arglwydd!

14. Cododd Duw gorff yr Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, a bydd yn defnyddio'i nerth i godi ein cyrff ninnau yr un fath.

15. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich cyrff chi yn rhannau o gorff y Meseia ei hun? Ydw i'n mynd i ddefnyddio fy nghorff (sy'n perthyn i'r Meseia) i gael rhyw gyda phutain? Na, byth!

16. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn yn clymu ei hun gyda'r butain wrth gael rhyw gyda hi? “Bydd y ddau yn dod yn un,” meddai'r ysgrifau sanctaidd.

17. Ond mae'r sawl sy'n clymu ei hun i'r Arglwydd yn rhannu'r un Ysbryd â'r Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 6