Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 6:11-20 beibl.net 2015 (BNET)

11. A dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg, ond dych chi wedi cael eich glanhau a'ch gwneud yn bur. Mae gynnoch berthynas iawn gyda Duw o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist a'r Ysbryd Glân wedi ei wneud drosoch chi.

12. Ond, “Mae gen i ryddid i wneud beth dw i eisiau” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er mod i'n rhydd i wneud beth dw i eisiau, fydd dim byd yn cael bod yn feistr arna i.

13. “Mae'n naturiol,” meddech chi wedyn, “fel bwyd i'r stumog a'r stumog i fwyd.” Falle wir, ond bydd Duw yn dinistrio'r ddau yn y diwedd. Chafodd y corff mo'i greu i fod yn anfoesol yn rhywiol – cafodd ei wneud i wasanaethu'r Arglwydd. Ac mae'r corff yn bwysig i'r Arglwydd!

14. Cododd Duw gorff yr Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, a bydd yn defnyddio'i nerth i godi ein cyrff ninnau yr un fath.

15. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich cyrff chi yn rhannau o gorff y Meseia ei hun? Ydw i'n mynd i ddefnyddio fy nghorff (sy'n perthyn i'r Meseia) i gael rhyw gyda phutain? Na, byth!

16. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn yn clymu ei hun gyda'r butain wrth gael rhyw gyda hi? “Bydd y ddau yn dod yn un,” meddai'r ysgrifau sanctaidd.

17. Ond mae'r sawl sy'n clymu ei hun i'r Arglwydd yn rhannu'r un Ysbryd â'r Arglwydd.

18. Gwnewch bopeth allwch chi i osgoi anfoesoldeb rhywiol. Does dim un pechod arall sy'n effeithio ar y corff yr un fath. Mae'r person sy'n pechu'n rhywiol yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.

19. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich corff chi'n deml i'r Ysbryd Glân? Mae'r Ysbryd yn byw ynoch chi – mae wedi ei roi'n rhodd i chi gan Dduw. Dim chi biau eich bywyd;

20. mae pris wedi ei dalu amdanoch chi. Felly defnyddiwch eich cyrff i anrhydeddu Duw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 6