Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 6:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan mae gynnoch chi achos yn erbyn Cristion arall, sut allwch chi feiddio mynd i lys barn? Rhannwch y peth gyda'ch cyd-Gristnogion, iddyn nhw ddelio â'r mater.

2. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “pobl Dduw yn mynd i farnu'r byd”? Felly os byddwch chi'n barnu'r byd, ydych chi ddim yn gallu delio gyda rhyw fân achosion fel hyn?

3. Rhaid i chi gofio y byddwn ni'n barnu angylion bryd hynny! Felly does bosib nad ydyn ni'n gallu setlo problemau pob dydd ar y ddaear yma!

4. Ond na, mae rhyw achos yn codi a dych chi'n gofyn i bobl y tu allan i'r eglwys ddelio â'r mater!

5. Cywilydd arnoch chi! Oes neb yn eich plith chi sy'n ddigon doeth i ddelio â'r math yma o beth?

6. Ydy'n iawn i Gristion erlyn Cristion arall? – a hynny o flaen pobl sydd ddim yn credu?

7. Mae achosion llys fel yma rhwng Cristnogion â'i gilydd yn dangos methiant llwyr. Byddai'n well petaech chi'n diodde'r cam, ac yn gadael i'r person arall eich twyllo chi!

8. Ond na, mae'n well gynnoch chi dwyllo a gwneud cam â phobl eraill – hyd yn oed eich cyd-Gristnogion!

9. Ydych chi ddim yn sylweddoli bod pobl ddrwg ddim yn cael perthyn i deyrnasiad Duw? Peidiwch twyllo'ch hunain: Fydd dim lle yn ei deyrnas i bobl sy'n anfoesol yn rhywiol, yn addoli eilun-dduwiau, neu'n godinebu, i buteinwyr gwrywgydiol, gwrywgydwyr gweithredol,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 6