Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 4:2-11 beibl.net 2015 (BNET)

2. Wrth gwrs, mae disgwyl i rywun sydd wedi derbyn cyfrifoldeb brofi ei fod yn ffyddlon.

3. Felly dim beth dych chi na neb arall yn ei feddwl sy'n bwysig gen i; yn wir, dim beth dw i fy hun yn ei feddwl sy'n bwysig hyd yn oed!

4. Mae nghydwybod i'n glir, ond dydy hynny ddim yn profi mod i'n iawn. Beth mae Duw ei hun yn ei feddwl ohono i sy'n cyfri.

5. Felly peidiwch cyhoeddi'ch dedfryd ar bethau yn rhy fuan; arhoswch nes i'r Arglwydd ddod yn ôl. Bydd y gwir i gyd yn dod i'r golau bryd hynny. Bydd cymhellion pawb yn dod i'r amlwg, a bydd pawb yn derbyn beth mae'n ei haeddu gan Dduw.

6. Ffrindiau annwyl, dw i wedi defnyddio fi fy hun ac Apolos fel esiampl, er mwyn i chi ddysgu beth ydy ystyr “peidio mynd y tu hwnt i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.” Byddwch chi'n stopio honni fod un yn well na'r llall wedyn.

7. Beth sy'n eich gwneud chi'n well na phobl eraill? Beth sydd gynnoch chi ydych chi ddim yn y pen draw wedi ei dderbyn gan Dduw? Ac os mai rhodd gan Dduw ydy'r cwbl, beth sydd i frolio amdano? – fel petaech chi'ch hunain wedi cyflawni rhywbeth!

8. Edrychwch arnoch chi! Dych chi'n meddwl fod popeth gynnoch chi yn barod! Dych chi mor gyfoethog! Dyma chi wedi cael eich teyrnas – a ninnau'n dal y tu allan! Byddai'n wych gen i tasech chi yn teyrnasu go iawn, er mwyn i ninnau gael teyrnasu gyda chi.

9. Wyddoch chi, mae'n edrych fel petai Duw wedi ein gwneud ni, ei gynrychiolwyr personol, fel y carcharorion rhyfel sydd ar ddiwedd y prosesiwn – y rhai sydd wedi eu condemnio i farw yn yr arena. Dŷn ni wedi cael ein gwneud yn sioe i ddifyrru'r byd – pobl ac angylion.

10. Ni yn edrych yn ffyliaid dros achos y Meseia, a chi'n bobl mor ddoeth! Ni yn wan, a chi mor gryf! Chi yn cael eich canmol a ninnau'n destun sbort!

11. Hyd heddiw dŷn ni'n brin o fwyd a diod, a heb ddigon o ddillad i'n cadw'n gynnes. Dŷn ni wedi cael ein cam-drin a does gynnon ni ddim cartrefi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 4