Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 4:16-21 beibl.net 2015 (BNET)

16. Felly plîs, dilynwch fy esiampl i!

17. Dyna pam dw i'n anfon Timotheus atoch chi – mae e'n fab annwyl i mi yn yr Arglwydd, a dw i'n gallu dibynnu'n llwyr arno. Bydd yn eich atgoffa chi sut dw i'n ymddwyn a beth dw i'n ei ddysgu am y Meseia Iesu. Dyma dw i'n ei ddysgu yn yr eglwysi i gyd, ble bynnag dw i'n mynd.

18. Ond mae rhai pobl, mor siŵr ohonyn nhw eu hunain, yn meddwl na fydda i'n ymweld â chi byth eto.

19. Ond dw i yn dod – a hynny'n fuan, os Duw a'i myn. Byddwn ni'n gweld wedyn os mai dim ond ceg fawr sydd ganddyn nhw, neu oes ganddyn nhw'r gallu i wneud rhywbeth!

20. Dim beth mae pobl yn ei ddweud, ond beth allan nhw ei wneud sy'n dangos Duw'n teyrnasu.

21. Dewiswch beth sydd orau gynnoch chi – i mi ddod gyda gwialen i gosbi a dweud y drefn, neu ddod yn llawn cariad ac yn addfwyn?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 4