Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 3:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. Mae'n bosib adeiladu ar y sylfaen gydag aur, arian, a gemau gwerthfawr, neu gyda coed, gwair a gwellt

13. – bydd safon gwaith pawb yn amlwg ar Ddydd y farn. Tân fydd yn profi ansawdd y gwaith sydd wedi ei wneud.

14. Os bydd yr adeilad yn dal i sefyll, bydd yr adeiladwr yn cael ei wobrwyo.

15. Ond os bydd gwaith rhywun yn cael ei ddinistrio, bydd y person hwnnw'n profi colled fawr. Bydd pobl felly yn cael eu hachub – ond dim ond o drwch blewyn y byddan nhw'n llwyddo i ddianc o'r fflamau!

16. Ydych chi ddim yn sylweddoli mai chi gyda'ch gilydd ydy teml Dduw, a bod Ysbryd Duw yn aros yn y deml yna?

17. Bydd Duw yn dinistrio unrhyw un sy'n dinistrio ei deml e. Mae teml Dduw yn gysegredig. A chi ydy'r deml honno!

18. Mae'n bryd i chi stopio twyllo'ch hunain! Os ydych chi wir yn meddwl eich bod chi'n ddoeth, rhaid i chi fod yn ‛dwp‛ yng ngolwg y byd i fod yn ddoeth go iawn!

19. Mae clyfrwch y byd yn dwp yng ngolwg Duw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Mae Duw'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw”

20. a hefyd, “Mae'r Arglwydd yn gwybod fod rhesymu clyfar pobl yn wastraff amser.”

21. Felly, peidiwch brolio am ddynion! Mae'r cwbl yn eiddo i chi –

22. Paul, Apolos, Pedr, y byd, bywyd, marwolaeth, y presennol, y dyfodol – chi biau nhw i gyd!

23. A dych chi'n eiddo i'r Meseia, a'r Meseia i Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 3