10. fi gafodd y fraint a'r cyfrifoldeb o osod y sylfaen (fel adeiladwr profiadol), ac mae rhywun arall yn codi'r adeilad ar y sylfaen. Ond rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu,
11. am mai ond un sylfaen sy'n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia.
12. Mae'n bosib adeiladu ar y sylfaen gydag aur, arian, a gemau gwerthfawr, neu gyda coed, gwair a gwellt
13. – bydd safon gwaith pawb yn amlwg ar Ddydd y farn. Tân fydd yn profi ansawdd y gwaith sydd wedi ei wneud.
14. Os bydd yr adeilad yn dal i sefyll, bydd yr adeiladwr yn cael ei wobrwyo.
15. Ond os bydd gwaith rhywun yn cael ei ddinistrio, bydd y person hwnnw'n profi colled fawr. Bydd pobl felly yn cael eu hachub – ond dim ond o drwch blewyn y byddan nhw'n llwyddo i ddianc o'r fflamau!
16. Ydych chi ddim yn sylweddoli mai chi gyda'ch gilydd ydy teml Dduw, a bod Ysbryd Duw yn aros yn y deml yna?
17. Bydd Duw yn dinistrio unrhyw un sy'n dinistrio ei deml e. Mae teml Dduw yn gysegredig. A chi ydy'r deml honno!
18. Mae'n bryd i chi stopio twyllo'ch hunain! Os ydych chi wir yn meddwl eich bod chi'n ddoeth, rhaid i chi fod yn ‛dwp‛ yng ngolwg y byd i fod yn ddoeth go iawn!
19. Mae clyfrwch y byd yn dwp yng ngolwg Duw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Mae Duw'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw”