Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 3:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oeddwn i acw, frodyr a chwiorydd, roedd hi'n amhosib siarad â chi fel Cristnogion aeddfed. Roedd rhaid i mi siarad â chi fel petaech chi heb dderbyn yr Ysbryd! – yn fabis bach yn eich dealltwriaeth o'r bywyd Cristnogol.

2. Roedd rhaid i mi eich bwydo chi â llaeth, am eich bod chi ddim yn barod i gymryd bwyd solet! Ac mae'n amlwg eich bod chi'n dal ddim yn barod!

3. Dych chi'n dal i ymddwyn fel pobl sydd heb dderbyn yr Ysbryd. Mae'r holl genfigennu a'r ffraeo sy'n mynd ymlaen yn warthus. Dych chi'n ymddwyn fel petaech chi ddim yn Gristnogion o gwbl.

4. Pan mae un yn dweud, “Dw i'n dilyn Paul,” ac un arall, “Dw i'n dilyn Apolos,” dych chi'n ymddwyn yn union fel pawb arall!

5. Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni – gwneud beth oedd Duw wedi ei ddweud wrthon ni.

6. Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i'w ddyfrio. Ond Duw wnaeth iddo dyfu, dim ni!

7. Dydy'r plannwr a'r dyfriwr ddim yn bwysig. Dim ond Duw, sy'n rhoi'r tyfiant.

8. Mae'r plannwr a'r dyfriwr eisiau'r un peth. A bydd y ddau yn cael eu talu am eu gwaith eu hunain.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 3