Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 2:9-16 beibl.net 2015 (BNET)

9. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Welodd yr un llygad, chlywodd yr un glust; wnaeth neb ddychmygu beth mae Duw wedi ei baratoi i'r rhai sy'n ei garu.”

10. Ond dŷn ni wedi deall, am fod Ysbryd Duw wedi ei esbonio i ni – ac mae'r Ysbryd yn gwybod cyfrinachau Duw i gyd!

11. Pwy sy'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun arall? Does neb, dim ond y person ei hun. Felly Ysbryd Duw ydy'r unig un sy'n gwybod beth sydd ar feddwl Duw.

12. A dŷn ni ddim yn edrych ar bethau o safbwynt y byd – mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd i ni er mwyn i ni allu deall yr holl bethau gwych sydd ganddo ar ein cyfer ni.

13. A dyma'r union neges dŷn ni'n ei rhannu – dim rhannu ein syniadau doeth ein hunain ond beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud. Dŷn ni'n rhannu gwirioneddau ysbrydol gyda phobl sydd wedi derbyn yr Ysbryd.

14. Os ydy'r Ysbryd ddim gan bobl, dŷn nhw ddim yn derbyn beth mae Ysbryd Duw yn ei ddweud – maen nhw'n gweld y cwbl fel nonsens pur. Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall.

15. Os ydy'r Ysbryd gynnon ni, mae'r cwbl yn gwneud sens! Ond dydy pobl eraill ddim yn ein deall ni:

16. “Pwy sy'n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sy'n gallu rhoi cyngor iddo?” Ond mae'r gallu gynnon ni i weld pethau o safbwynt y Meseia.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 2