Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 15:43-53 beibl.net 2015 (BNET)

43. Pan mae'n cael ei osod yn y ddaear mae'n druenus, ond pan fydd yn codi bydd yn ogoneddus! Mae'n cael ei ‛hau‛ mewn gwendid, ond bydd yn codi mewn grym!

44. Corff dynol cyffredin sy'n cael ei ‛hau‛, ond corff ysbrydol fydd yn codi. Yn union fel mae corff dynol naturiol yn bod, mae yna hefyd gorff ysbrydol.

45. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn berson byw” ond mae'r Adda olaf, sef y Meseia, yn ysbryd sy'n rhoi bywyd i eraill.

46. Dim yr un ysbrydol ddaeth gyntaf, ond yr un naturiol, a'r un ysbrydol yn ei ddilyn.

47. Cafodd Adda, y dyn cyntaf, ei wneud o bridd y ddaear, ond daeth y Meseia, yr ail ddyn, o'r nefoedd.

48. Mae gan pob un ohonon ni gorff daearol fel Adda, ond bydd gynnon ni sy'n perthyn i'r nefoedd gorff nefol fel y Meseia.

49. Yn union fel dŷn ni wedi bod yn debyg i'r dyn o'r ddaear, byddwn ni'n debyg i'r dyn o'r nefoedd.

50. Dyma dw i'n ei ddweud, frodyr a chwiorydd annwyl – all cig a gwaed ddim perthyn i deyrnas Dduw. All y corff sy'n darfod ddim bodoli yn y deyrnas sydd byth yn mynd i ddarfod.

51. Gwrandwch – dw i'n rhannu rhywbeth sy'n ddirgelwch gyda chi: Fydd pawb ddim yn marw. Pan fydd yr utgorn olaf yn cael ei ganu byddwn ni i gyd yn cael ein newid –

52. a hynny'n sydyn, mewn chwinciad. Bydd yr utgorn yn seinio, y rhai sydd wedi marw yn codi mewn cyrff fydd byth yn darfod, a ninnau sy'n fyw yn cael ein trawsffurfio.

53. Rhaid i ni, sydd â chorff sy'n mynd i bydru, wisgo corff fydd byth yn pydru. Byddwn ni sy'n feidrol yn cael gwisgo anfarwoldeb!

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 15