Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 15:13-26 beibl.net 2015 (BNET)

13. Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, dydy'r Meseia ddim wedi atgyfodi chwaith.

14. Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydy'r newyddion da sy'n cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag – mae beth dych chi'n ei gredu yn gwbl ddiystyr!

15. Bydd hi'n dod yn amlwg ein bod ni sy'n ei gynrychioli wedi bod yn dweud celwydd am Dduw! Roedden ni'n tystio bod Duw wedi codi'r Meseia yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, ac yntau heb wneud hynny os ydy'n wir fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi.

16. Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, wnaeth y Meseia ddim dod yn ôl yn fyw chwaith.

17. Ac os na chododd y Meseia, mae beth dych chi'n ei gredu'n wastraff amser – dych chi'n dal yn gaeth i'ch pechodau.

18. Ac os felly mae'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn gwbl golledig hefyd.

19. Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dŷn ni'n gobeithio yn y Meseia, dŷn ni i'n pitïo'n fwy na neb!

20. Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf – fe ydy'r cyntaf o lawer sy'n mynd i gael eu codi.

21. Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar ôl marwolaeth drwy berson dynol hefyd.

22. Mae pawb yn marw am eu bod nhw'n perthyn i Adda, ond mae pawb sy'n perthyn i'r Meseia yn cael bywyd newydd.

23. Dyma'r drefn: y Meseia ydy ffrwyth cynta'r cynhaeaf; wedyn, pan fydd e'n dod yn ôl, bydd pawb sy'n perthyn iddo yn ei ddilyn.

24. Wedyn bydd y diwedd wedi dod – bydd y Meseia'n trosglwyddo'r deyrnas i Dduw y Tad ar ôl dinistrio pob gormeswr, awdurdod a grym drygionus.

25. Rhaid i'r Meseia deyrnasu nes bydd ei holl elynion wedi cael eu sathru dan draed.

26. A'r gelyn olaf i gael ei ddinistrio fydd marwolaeth.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 15