Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 14:12-24 beibl.net 2015 (BNET)

12. Dyna fel mae hi gyda chi! Os dych chi'n frwd i brofi beth mae'r Ysbryd yn ei roi, gofynnwch am fwy o'r pethau hynny sy'n adeiladu cymdeithas yr eglwys.

13. Felly, dylai'r person sy'n siarad mewn iaith ddieithr weddïo am y gallu i esbonio beth mae'n ei ddweud.

14. Os dw i'n siarad mewn iaith ddieithr, dw i'n gweddïo'n ddwfn yn fy ysbryd, ond mae fy meddwl yn ddiffrwyth.

15. Felly beth wna i? Gweddïo o ddyfnder fy ysbryd, a gweddïo gyda'r meddwl hefyd; canu mawl o waelod fy ysbryd, a chanu mawl gyda'r meddwl hefyd.

16. Os mai dim ond yn dy ysbryd rwyt ti'n moli Duw, sut mae pobl eraill i fod i ddeall a dweud “Amen” i beth rwyt ti'n diolch amdano? – dŷn nhw ddim yn gwybod beth rwyt ti'n ddweud!

17. Mae'n siŵr bod dy ddiolch di'n ddigon didwyll, ond dydy e'n gwneud dim lles i neb arall.

18. Mae gen i'r ddawn i siarad ieithoedd dieithr fwy na neb ohonoch chi, diolch i Dduw.

19. Ond lle mae pobl wedi dod at ei gilydd yn yr eglwys byddai'n well gen i siarad pum gair mae pobl yn eu deall, er mwyn dysgu rhywbeth iddyn nhw, na miloedd ar filoedd o eiriau mewn iaith ddieithr.

20. Frodyr a chwiorydd annwyl, stopiwch ymddwyn fel plant bach! Byddwch yn ddiniwed fel babis bach lle mae drygioni'n y cwestiwn. Ond, fel arall, dw i eisiau i chi feddwl ac ymddwyn fel oedolion.

21. Mae wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith: “Bydda i'n siarad â'r bobl yma mewn ieithoedd dieithr, trwy'r hyn fydd pobl estron yn ei ddweud – ond fyddan nhw ddim yn gwrando arna i wedyn,” meddai'r Arglwydd.

22. Rhybudd o farn i bobl sydd ddim yn credu ydy ieithoedd dieithr, nid i'r rhai sy'n credu. Ond mae proffwydoliaeth yn arwydd i'r rhai sy'n credu, nid i'r rhai sydd ddim yn credu.

23. Felly, os ydy pawb yn siarad mewn ieithoedd dieithr pan mae'r eglwys yn cyfarfod, a phobl sydd ddim yn credu nac yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn dod i mewn, byddan nhw'n meddwl eich bod chi'n hollol wallgof!

24. Ond os dych chi i gyd yn proffwydo pan mae rhywun sydd ddim yn credu nac yn deall yn dod i mewn, byddan nhw'n cael eu hargyhoeddi eu bod yn wynebu barn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 14