Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 1:18-29 beibl.net 2015 (BNET)

18. Mae'r neges am y groes yn nonsens llwyr i'r bobl hynny sydd ar y ffordd i ddistryw. Ond i ni sy'n cael ein hachub, dyma'n union lle mae grym Duw i'w weld.

19. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydda i'n dinistrio doethineb dynol; ac yn diystyru eu clyfrwch.”

20. Ble mae'r bobl glyfar? Ble mae athrawon y Gyfraith? Ble mae'r dadleuwyr i gyd? Mae Duw wedi gwneud i ddoethineb dynol edrych yn dwp!

21. Mae Duw mor ddoeth! Wnaeth e ddim gadael i bobl ddefnyddio'u clyfrwch eu hunain i ddod i'w nabod e. Beth wnaeth e oedd defnyddio ‛twpdra'r‛ neges dŷn ni'n ei chyhoeddi i achub y rhai sy'n credu.

22. Mae'r Iddewon yn mynnu gweld gwyrthiau syfrdanol i brofi fod y neges yn wir, a'r cwbl mae'r Groegiaid eisiau ydy rhywbeth sy'n swnio'n glyfar.

23. Felly pan dŷn ni'n sôn am y Meseia yn cael ei groeshoelio, mae'r fath syniad yn sarhad i'r Iddewon, ac yn nonsens llwyr i bobl o genhedloedd eraill.

24. Ond i'r rhai mae Duw wedi eu galw i gael eu hachub (yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill) – iddyn nhw, y Meseia sy'n dangos mor bwerus ac mor ddoeth ydy Duw.

25. Mae ‛twpdra‛ Duw yn fwy doeth na chlyfrwch pobl, a ‛gwendid‛ Duw yn fwy pwerus na chryfder pobl.

26. Ffrindiau annwyl, cofiwch sut oedd hi arnoch chi pan ddaethoch chi i gredu! Doedd dim llawer ohonoch chi'n bobl arbennig o glyfar, neu ddylanwadol, neu bwysig.

27. Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis – y rhai ‛twp‛, i godi cywilydd ar y rhai hynny sy'n meddwl eu bod nhw'n glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy'n dal grym.

28. Dewisodd y bobl sy'n ‛neb‛, y bobl hynny mae'r byd yn edrych i lawr arnyn nhw, i roi taw ar y rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n ‛rhywun‛.

29. Does gan neb le i frolio o flaen Duw!

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 1