Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 1:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw a'm galw i fod yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Sosthenes hefyd.

2. At eglwys Dduw yn Corinth. Dych chi wedi'ch neilltuo gan Dduw i berthynas â'r Meseia Iesu. Dych chi wedi'ch galw i fod yn bobl sanctaidd, fel pob Cristion arall – sef pawb ym mhobman sy'n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist. Fe sy'n Arglwydd arnyn nhw ac arnon ni.

3. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.

4. Dw i bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi. Mae wedi bod mor hael, ac wedi rhoi cymaint o ddoniau i chi sydd wedi dod i berthyn i'r Meseia Iesu.

5. Mae wedi'ch gwneud chi'n gyfoethog yn eich gallu i siarad am bethau ysbrydol, a'ch gwybodaeth ysbrydol.

6. Mae'r neges am y Meseia wedi gwreiddio'n ddwfn yn eich bywydau chi.

7. Mae gynnoch chi bob dawn ysbrydol sydd ei angen arnoch tra dych chi'n disgwyl i'r Arglwydd Iesu Grist ddod yn ôl.

8. Bydd e'n eich cadw chi'n ffyddlon i'r diwedd un. Mae e am i chi fod yn ddi-fai ar y diwrnod mawr pan fydd ein Harglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl.

9. Gallwch chi drystio Duw yn llwyr. Mae'n gwneud beth mae'n ei ddweud. Fe sydd wedi'ch galw chi i rannu bywyd gyda'i fab, y Meseia Iesu ein Harglwydd ni.

10. Frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio atoch chi ar ran ein Harglwydd Iesu Grist – stopiwch ffraeo. Dw i eisiau i chi ddangos undod go iawn, yn lle bod wedi eich rhannu'n ‛ni‛ a ‛nhw‛.

11. Dw i'n gwybod y cwbl amdanoch chi – mae rhai o bobl Chloe wedi dweud wrtho i am yr holl gecru yn eich plith chi.

12. Mae un ohonoch chi'n dweud, “Paul dw i'n ei ddilyn”; rhywun arall yn dweud, “Apolos dw i'n ei ddilyn,” neu “Dw i'n dilyn Pedr”; ac wedyn un arall yn dweud, “Y Meseia dw i'n ei ddilyn”!

13. Ydy hi'n bosib rhannu'r Meseia yn ddarnau? Ai fi, Paul, gafodd ei groeshoelio drosoch chi? Wrth gwrs ddim! Gawsoch chi'ch bedyddio i berthyn i enw Paul? Na!

14. Diolch byth, wnes i fedyddio neb ond Crispus a Gaius.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 1