Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 8:7-17 beibl.net 2015 (BNET)

7. Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd,hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud?

8. A does gan neb y gallu i ddal ati i anadlu pan mae'n marw; does neb yn gallu gohirio'r foment y bydd yn marw. All milwr ddim cael ei ryddhau o ganol y frwydr, a'r un modd all gwneud drwg ddim achub pobl ddrwg.

9. Wrth i mi fynd ati o ddifrif i feddwl am bopeth sy'n digwydd yn y byd, dw i wedi sylweddoli hyn: mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.

10. Yna gwelais bobl ddrwg yn cael angladd parchus. Roedden nhw'n arfer mynd a dod o'r lle sanctaidd, tra roedd y rhai yn y ddinas oedd wedi byw yn iawn yn cael eu hanghofio. Beth ydy'r pwynt?

11. Os ydy drygioni ddim yn cael ei gosbi ar unwaith, mae pobl yn cael eu hannog i wneud drwg.

12. Mae pechadur yn cyflawni'r un drwg ganwaith, ac yn dal i gael byw'n hir. Ond dw i'n gwybod yn iawn y bydd hi'n well ar y rhai sy'n parchu Duw yn y pen draw, am eu bod nhw'n dangos parch ato.

13. Fydd hi ddim yn dda ar y rhai sy'n gwneud pethau drwg, oherwydd, fel cysgod, fyddan nhw ddim yn aros yn hir, am nad ydyn nhw'n parchu Duw.

14. Ond wedyn, dyma beth sy'n gwneud dim sens yn y byd yma: Mae rhai pobl sydd wedi byw yn ufudd i Dduw yn cael eu trin fel petaen nhw wedi gwneud drwg; ac mae rhai pobl ddrwg sy'n cael eu trin fel petaen nhw wedi byw yn iawn! Fel dw i'n dweud, dydy'r peth yn gwneud dim sens!

15. Felly dw i'n argymell y dylid mwynhau bywyd. Y peth gorau all rhywun ei wneud ar y ddaear yma ydy bwyta, yfed a mwynhau ei hun. Mae'r pleserau yma yn rhywbeth mae Duw yn eu rhoi iddo ochr yn ochr â'i holl waith caled yn ystod ei fywyd.

16. Es i ati o ddifrif i geisio ddeall beth ydy doethineb ac edrych yn fanwl ar bopeth sy'n digwydd yn y byd – hyd yn oed mynd heb gwsg nos a dydd –

17. ac ystyried popeth mae Duw wedi ei wneud. Y gwir ydy does neb yn deall popeth sy'n digwydd yn y byd. Sdim ots pa mor galed mae pobl yn trïo, does neb yn deall go iawn. Hyd yn oed os oes rhai pobl glyfar yn honni eu bod nhw'n gwybod, dŷn nhw ddim wir yn deall.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 8