Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 8:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pwy sy'n ddoeth go iawn? Pwy sy'n gallu esbonio pethau?“Mae doethineb rhywun yn gwneud i'w wyneb oleuo,Ac mae'r olwg galed ar ei wyneb yn diflannu.”

2. Dw i'n dweud,“Gwranda ar orchymyn y brenin –gan dy fod wedi tyngu llw o flaen Duw i wneud hynny.”

3. Paid bod ar frys i fynd o'i bresenoldeb;a paid oedi pan fydd pethau'n anghysurus.Gall y brenin wneud unrhyw beth mae'n ei ddewis.

4. Mae gan y brenin awdurdod llwyr,a does gan neb hawl i ofyn iddo, “Beth wyt ti'n wneud?”

5. Fydd yr un sy'n ufudd iddo ddim yn cael ei hun i drafferthion.Mae'r person doeth yn deall fod amser a threfn i bopeth.

6. Mae amser penodol a threfn i bopeth.Ond mae'r perygl o ryw drasiedi'n digwyddyn pwyso'n drwm ar bobl.

7. Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd,hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud?

8. A does gan neb y gallu i ddal ati i anadlu pan mae'n marw; does neb yn gallu gohirio'r foment y bydd yn marw. All milwr ddim cael ei ryddhau o ganol y frwydr, a'r un modd all gwneud drwg ddim achub pobl ddrwg.

9. Wrth i mi fynd ati o ddifrif i feddwl am bopeth sy'n digwydd yn y byd, dw i wedi sylweddoli hyn: mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.

10. Yna gwelais bobl ddrwg yn cael angladd parchus. Roedden nhw'n arfer mynd a dod o'r lle sanctaidd, tra roedd y rhai yn y ddinas oedd wedi byw yn iawn yn cael eu hanghofio. Beth ydy'r pwynt?

11. Os ydy drygioni ddim yn cael ei gosbi ar unwaith, mae pobl yn cael eu hannog i wneud drwg.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 8