Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 3:7-22 beibl.net 2015 (BNET)

7. Amser i rwygo ac amser i bwytho,Amser i gadw'n dawel ac amser i siarad;

8. Amser i garu ac amser i gasáu;Amser i ryfel ac amser i heddwch.

9. Felly beth mae'r gweithiwr yn ei ennill ar ôl ei holl ymdrech?

10. Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi eu rhoi i bobl eu gwneud:

11. Mae Duw'n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o'r tragwyddol, ond dydy pobl ddim yn gallu darganfod popeth mae Duw'n bwriadu ei wneud yn ystod eu bywydau.

12. Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all pobl ei wneud ydy bod yn hapus a mwynhau eu hunain tra byddan nhw byw.

13. Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau.

14. Des i'r casgliad hefyd fod popeth mae Duw yn ei wneud yn aros am byth: Does dim modd ychwanegu ato, na thynnu dim oddi wrtho. Mae Duw wedi gwneud pethau fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.

15. “Mae popeth a fu yn dal i fod,a popeth fydd fel popeth sydd.Mae Duw'n gwneud etobeth sydd wedi mynd heibio.”

16. Peth arall dw i'n ei weld o hyd ac o hyd: Lle byddwn i'n disgwyl cyfiawnder a thegwch mae drygioni!

17. Meddyliais, “Bydd Duw yn barnu'r bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sy'n gwneud drygioni. Mae amser wedi ei bennu i bopeth, a bydd pob gweithred yn cael ei barnu.”

18. Wedyn meddyliais, “Mae Duw yn gwneud i bobl weld eu bod nhw ddim gwell nag anifeiliaid.”

19. Mae tynged pobl ac anifeiliaid yn union yr un fath: mae'r naill a'r llall yn marw, a'r un anadl sy'n eu cadw nhw'n fyw. Dydy pobl ddim gwell nag anifeiliaid. Dydy e'n gwneud dim sens!

20. Mae'r ddau yn mynd i'r un lle yn y pen draw; mae'r ddau wedi dod o'r pridd ac yn mynd yn ôl i'r pridd.

21. Does neb wir yn gwybod fod ysbryd pobl yn codi i fyny, ac ysbryd anifeiliaid yn mynd i lawr i'r ddaear.

22. Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all rhywun ei wneud ydy mwynhau ei waith. Dyna ei unig wobr. Pwy ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl iddo farw?

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 3