Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 3:4-13 beibl.net 2015 (BNET)

4. Amser i wylo ac amser i chwerthin,Amser i alaru ac amser i ddawnsio;

5. Amser i daflu cerrig i ffwrdd ac amser i gasglu cerrig,Amser i gofleidio ac amser i beidio cofleidio;

6. Amser i chwilio ac amser i dderbyn fod rhywbeth ar goll,Amser i gadw rhywbeth ac amser i daflu i ffwrdd;

7. Amser i rwygo ac amser i bwytho,Amser i gadw'n dawel ac amser i siarad;

8. Amser i garu ac amser i gasáu;Amser i ryfel ac amser i heddwch.

9. Felly beth mae'r gweithiwr yn ei ennill ar ôl ei holl ymdrech?

10. Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi eu rhoi i bobl eu gwneud:

11. Mae Duw'n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o'r tragwyddol, ond dydy pobl ddim yn gallu darganfod popeth mae Duw'n bwriadu ei wneud yn ystod eu bywydau.

12. Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all pobl ei wneud ydy bod yn hapus a mwynhau eu hunain tra byddan nhw byw.

13. Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 3