Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 2:6-21 beibl.net 2015 (BNET)

6. Yna adeiladu pyllau dŵr – digon i ddyfrio'r holl goed oedd gen i yn tyfu.

7. Prynais weithwyr i mi fy hun – dynion a merched, ac roedd gen i weision eraill oedd wedi eu geni yn y tŷ brenhinol. Roedd gen i fwy o wartheg a defaid nac unrhyw un oedd wedi bod yn Jerwsalem o'm blaen i.

8. Dyma fi'n casglu arian ac aur i mi fy hun hefyd, a thrysorau gwerthfawr brenhinoedd a thaleithiau eraill. Roedd gen i gantorion (dynion a merched) i'm difyrru, a digonedd o bleser rhywiol – harîm o ferched hardd.

9. Oedd, roedd gen i fwy o gyfoeth nac unrhyw un oedd wedi bod o'm blaen i yn Jerwsalem. Ond yn dal i geisio bod yn ddoeth.

10. Roeddwn i'n cael beth bynnag oedd yn cymryd fy ffansi. Roeddwn i'n gallu profi pob pleser, fel y mynnwn i. Roeddwn i'n mwynhau'r gwaith caled, a dyna oedd fy ngwobr i am fy ymdrech.

11. Ond yna dechreuais feddwl am y cwbl roeddwn i wedi ei gyflawni, a'r holl ymdrech oedd wedi mynd i mewn i gael popeth oedd gen i – a dod i'r casgliad ei fod yn gwneud dim sens, a bod y cwbl fel ceisio rheoli'r gwynt. Beth mae rhywun yn ei ennill yn y pen draw?

12. Beth mwy fydd y brenin nesaf yn gallu ei wneud? Dim ond beth sydd wedi ei gyflawni eisoes!Dechreuais feddwl eto am y gwahaniaeth rhwng doethineb a'r pethau hurt a ffôl mae pobl yn eu gwneud.

13. Des i'r casgliad fod mwy o bwynt i ddoethineb na ffolineb – mae fel y gwahaniaeth rhwng golau a thywyllwch.

14. “Mae pobl ddoeth yn gwybod ble maen nhw'n mynd,ond mae ffyliaid yn cerdded mewn tywyllwch.”Ond wedyn, yr un dynged sy'n disgwyl y naill a'r llall.

15. Meddyliais, “Yr un peth fydd yn digwydd i mi ac i'r ffŵl yn y diwedd! Felly beth ydy'r pwynt bod mor ddoeth?” Des i'r casgliad fod hyn hefyd yn gwneud dim sens.

16. Fydd dyn doeth, fel y ffŵl, ddim yn cael ei gofio yn hir iawn. Byddan nhw wedi cael eu hanghofio yn y dyfodol. Mae'n ofnadwy! Mae'r doeth yn marw yn union yr un fath â'r rhai ffôl.

17. Felly roeddwn i'n casáu bywyd, am fod popeth sy'n digwydd yn y byd yn hollol annheg yn fy ngolwg i. Mae'r cwbl mor ddiystyr – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.

18. Roeddwn i'n casáu'r ffaith fy mod i wedi gweithio mor galed i gael pethau ar y ddaear yma, ac wedyn fod rhaid i mi adael y cwbl i'r un fyddai'n dod ar fy ôl i.

19. A phwy a ŵyr fydd y person hwnnw'n ddoeth neu'n ffŵl? Ond bydd e'n dal i reoli'r holl gyfoeth dw i wedi gweithio mor galed amdano a defnyddio fy noethineb i'w gael. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens!

20. Roeddwn i'n hollol ddigalon wrth feddwl am bopeth roeddwn i wedi ei gyflawni ar y ddaear.

21. Mae rhywun yn gweithio'n galed, ac yn defnyddio'i holl ddoethineb a'i wybodaeth a'i allu i gael y cwbl, ac wedyn mae'n ei basio ymlaen i rywun sydd wedi gwneud dim i'w ennill. Dydy'r peth yn gwneud dim sens ac mae'n hollol annheg.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 2